Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lygodd Mr. Basset ei fwriad i ymadael â'r eglwys. Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol iddo ar y 25ain o Chwefrol, 1912, pryd y cyflwynodd yr eglwys roll top desk i Mr. Basset, a tray a thegell arian i Mrs. Basset, yn arwydd o'i pharch a'i hedmygedd o honynt. Traddododd Mr. Basset ei bregeth olaf fel gweinidog Seion ar y 26ain o Chwefrol.

Cododd pedwar o bregethwyr o'r eglwys:—Y Parchn. W. J. Parry; Robert Morris, Cwmafon; Robert Jones, Llithfaen; a Rowland Williams, Bargoed,

Ymwelodd y Gymanfa bum gwaith â Phorthmadog —1855, 1867, 1872, 1901 a 1912, a phregethwyd ynddynt gan gewri'r enwad. Rhif yr aelodau ar ddiwedd 1911 oedd 89.

Swyddogion.—Mri. Ellis Jones, David Jones, John Jones, a J. O. Jones.

Trysorydd.—Mr. David Ames.

Ysgrifennydd.—Mr. E. Gwaenog Rees.