Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

£293 14s. 7c. Yn y flwyddyn 1864 daeth Mr. John Williams, brawd y Parch. D. Williams, o'r Penrhyn, i gadw'r Ysgol Frytanaidd, a dewiswyd ef yn flaenor yn fuan. Yn y flwyddyn 1873 symudodd yntau i Dremadog. Wedi dechreu addoli'n y capel newydd, canfyddwyd nad oedd eto'n foddhaol—yr oedd gormod o adsain ynddo; ac i wneud i ffwrdd a hynny gosodwyd oriel arno yn 1866, a symudwyd y pwlpud o'r pen cyferbyn â'r drws i'r man lle y mae'n awr. Yn y flwyddyn 1869 peidiodd Mr. Bennet Williams a bod yn flaenor, a symudodd Mr. W. Williams i fyw i Bont Newydd. Yn 1875 symudodd Mr. John Owen, un o flaenoriaid Tremadog, i'r Tabernacl, a derbyniwyd ef yn swyddog yno. Yn fuan ar ol hynny dewiswyd yn flaenoriaidyn y dull presennol—Mr. Daniel Williams a Capten Griffith Griffiths. Ond yn y flwyddyn ddilynol bu farw dau o'i swyddogion mwyaf blaenllaw,—Mri. John Richards a J. H. Williams. Cynhyddodd yr eglwys yn gyson, a daeth yn ddigon cref yn ol syniad rhai o'r aelodau i gynnal gweinidog ei hun.

Yn y flwyddyn 1877 terfynodd Mr. Owen ei gysylltiad âg eglwys y Tabernacl, wedi bod yn fugail gweithgar a ffyddlon arni o'i dechreuad, gan gyfyngu maes ei lafur i eglwys y Garth. Yn y flwyddyn honno y dechreuwyd yr Ysgol Sabothol Genhadol, a hynny drwy lafur ac ymdrech Miss Williams, Britannia Foundry—Mrs. Roberts, Rhuthyn, wedi hynny. Dechreuodd Miss Williams hi mewn ystafell gysylltiedig â'r felin lifio—perthynol i ffirm ei thad—a derbynicdd bob cefnogaeth gan eraill oedd o gyffelyb ysbryd cenhadol a dyngarol i ddwyn y gwaith ymlaen; a gwnaed hynny gyda llwyddiant nid bychan. Y mae o'm blaen yn awr y cytundeb a wnaed rhwng Mr. G. Proctor, perchenog yr adeilad yn Snowdon Street, â'r cymerwyr, ac am fod gwerth hanesyddol ynddo dodaf eu henwau i mewn yma:—"Hugh Jones, Madoc Street, blockmaker; David Griffith Davies, Clog y Berth, clerk, and Robert Williams, Britannia Foundry, iron founder." Hyd y cymeriad cyntaf ydoedd pum mlynedd, am bedair punt o ardreth flynyddol. Arwyddwyd y cytun-