Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deb ar y 31ain o Hydref, 1882. Ond ni bu'r lle'n hir o dan amodau felly, oblegid prynwyd ef yn eiddo i'r achos; ac y mae heddyw'n un o ysgolion mwyaf llafurus y Dosbarth. Rhifai'r disgyblion, yn ol ystadegau 1911.

Yn y flwyddyn 1877 daeth Mr. Pierce Davies i fyw o Gwmllan, gan ymaelodi yn y Tabernacl; a'r flwyddyn ddilynol dewiswyd ef yn flaenor, a llanwodd y swydd gyda medr a doethineb hyd ei farw, yn 1882.

Yn y flwyddyn 1879 symudodd Mr. R. Rowland i fyw i Flaenau Ffestiniog, ac yn 1881 bu farw'r Capten Griffith Griffiths. Ond ymhen ychydig fisoedd etholwyd Mri. Richard Hughes a John Roberts, y Felin, i lanw'r bylchau. Yng Ngorffennaf, 1891, dewiswyd Mr. Jonathan Davies, Mr. Richard Lloyd, a Mr. Robert Williams, yn flaenoriaid.

Nid oedd yr eglwys yn foddlon i fod yn hir heb weinidog ar ol i'r Parch. Thomas Owen gefnu arni; ac yn y flwyddyn 1879 rhoddasant alwad i'r Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon), oedd y pryd hynny yn weinidog yn Nhrefriw. A gŵyr Cymru benbaladr ei werth ef heddyw, ac hapused a fu ei gysylltiad â'i eglwys. Sefydlwyd ef ar y 12fed o Fawrth. Yn y flwyddyn 1886 dioddefai Mr. Roberts oddi wrth anhwyldeb gyddfol, a rhoddodd yr eglwys flwyddyn o seibiant iddo, ynghyda chynhorthwy ariannol i gyfarfod â'i dreuliau.

Gwneid cyfnewidiadau parhaus ynglyn â'r adeilad, megis adgyweirio ei dô, adeiladu ysgoldy eang, a'i baentio. Yn y flwyddyn 1889 adeiladwyd tŷ capel. Costiodd y gwelliantau hynny £1,330, gan wneud holl gostau'r capel yn £4,168. Yn ystod y cyfnod hwn cododd yr eglwys dri phregethwr,—y Parchn. W. R. Jones (Goleufryn), Robert Richards—y Rhyl yn awr, ac Owen Owens—gwr a adweinir yn well heddyw wrth yr enw O. Eilian Owen—pregethwr, llenor, a Chymreigydd gwych.

Yn y flwyddyn 1894 cyhoeddodd yr eglwys ei hadroddiad argraffedig cyntaf. Gan fod y gemau sydd ynddynt yn rhy gain i mi ddodi fy nwylaw anghelfydd