Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hwn a alwent yn Cawnel Ond trodd y rhôd er daioni i filoedd heblaw'r Cwmpeiui trwy iddynt, mewn cysylltiad a Chwmpeini Sirhowy, gael caniatad gan y Duke of Beaufort i wneyd dyfrffos trwy ei dir ef:hefyd i wneyd gored tuag at droi dwfr yr afon i'r ddyfrffos, feeder, at wasanaeth Sirhowy a Thredegar. Dyma'r tro cyntaf a gafodd yr afon i weinyddu ei chymwynasau di—dor ac anmhrisiadwy. Dyma'r amser hefyd y gwnawd y llyn a elwir Pownd y Gwaith.

PENNOD V.

YR ADEILADYDD, AC EREILL.

Adeiladydd Ffwrnesi Gwaith Haiarn Tredegar ydoedd Rees Davies, tad J. Davies, yr hwn sydd yn byw yn awr yn Rumni, a llysdad i'r enwog D. Rees Stephens. Yr oedd Mr. Davies, pan ymgymerodd i adeiladu Ffwrnesi Tredegar, yn byw yn Llangynidr. Ond wedi dechreu ar y gwaith, nid hir y bu cyn symud i Dredegar. A mwy na thebyg mai efe a adeiladodd y tŷ cyntaf yn Nhredegar, sef ei dŷ ei hun, yr hwn sydd y'ngodreu Heol yr Haiarn, Iron Street, yn yr hwn hefyd y bu ef farw. Yr oedd Mr. Davies yn un oedd yn caru pawb a phawb yn ei garu yntau.

Yr un a dorodd fan y Ffwrnesi oedd Mr. Abram Richard, tad Mrs. Bees, gweddw y niweddar William Bees, o'r Moulder's Arms, Sirhowy. Digwyddodd pan oedd Abram Richard yn tyni y tir i lawr i'r dyben o gael lle i'r sylfaen, i ran o'r tir syrthio arno a'i anafu yn dost, a theimlodd oddiwrtho tra fu byw. Wedi adeiadu y Ffwrnesi—gosod i fyny y Peirianau—a phob peth—mewn trefn i'w gosod ar Flast—nid oedd neb yn eu plith yn gwybod dim am y gelfyddyd o doddi haiarn, fel bu gorfod ar Gwmpeini Tredegar anfon at Gwmpeini Sirhowy i fegian arnynt i anfon toddwr, founder, iddynt yr hyn a wnawd gyda'r ewyllysgarwch mwyaf, (canys yr