Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heir ni yn hyn, pan ystyriom nad oedd holl drigolion plwyf Bedwellty yn y flwyddyn 1801 ond 619. Gwel Pigot's Directory am y flwyddyn 1831, tudalen 665. Ac yn y flwyddyn 1811, y'mhen naw mlynedd wedi i Waith Tredegar gael ei ddechreu yr oedd trigolion plwyf Bedwellty yn 4,590, ac yn y flwyddyn 1821 yn 6,384, eto yn 1831 yr oedd rhif y trigolion yn 10,637, a bernir fod yr hanereg, moiety, yn perthyn i Dredegar. Gwel yr un llyfr, sef Pigot's Directory, a'r un tudalen. Mae yn ddiamheuol fod yn rhwyddach adeiladu wyth ffwrnes mewn blwyddyn yn awr nag adeiladu tair ffwrnes yn Nhredegar driugain mlynedd yn ol. Yn ngwyneb pob anfanteision, ie, anfanteision o'r mwyaf, yr adeiladodd Cymdeithion, Company, Tredegar, y gwaith sydd yn awr yn destyn ein hymchwiliadau. Yr oedd celfyddyd y pryd hwnw y'mhell iawn yn ol, at beth yw hi 'nawr yn ein dyddiau ni. Yn yr amser hwnw, driugain mlynedd yn ol, yr oedd cymaint o draul ar y Cwm'ni am gludo un Chwythbeiriant, Blast Engine, o Fonachlog Castelnledd i Dredegar, ac yw gwerth y peiriant yr amser presenol. Canys, am nad oedd Tollffyrdd, turnpike, yr amser hwnw, o Feni na Merthyr ychwaith i Dredegar, gorfu iddynt dalu am gludo'r horse-head, prif ysgogydd y peiriant, o'r Fonachlog i Gasnewydd, ac o Gasnewydd i'r Feni, ac o'r Feni, dros y mynydd, i Dredegar. Ac wrth ystyried mai un cymal o'r peiriant oedd hwn, a bod y cymalau eraill ar ol, gwelwn ar unwaith fod traul aruthrol arnynt pan yn adeiladu y Gwaith ar y cyntaf rhagor yn awr. Heb law hyn, yr oedd anhawsderau eraill ar y ffordd, sef dyfrlynoedd i fwydo'r Peirianau, a chledrffyrdd i gludo'r mwn a'r glo tua'r ffwrnesi. Yn herwydd hyn buont yn ymboeni am rhyw amser, gan wneuthur y goreu o'r gwaethaf. Cloddiasant ddyfrlyn bychan, y'nghyda man gwteri, idd y dyben o fwydo y llyn, pond. Wel, yr oedd hyny yn ateb o'r goreu yn y gauaf, ond pan ddeua'r haf nid oedd o fawr werth canys yr oeddynt yn gorfod talu am gario dwfr i'r llyn,