Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddigion Cymreig, y'Nghymru, yn myned dan yr enw Trefel Trenewydd, palas yr anrhydeddus Arglwydd Dinevor hefyd Tregoib, palas ardderchog Mr. Hughes, ger Llandeilo Fawr, a llawer o balasau ereill a allesid eu henwi.

PEN. IV.

DECHREUAD GWAITH HAIARN TREDEGAR

Wedi i Mr. Munkas, mewn cysylltiad a Mr. Fothergill, gael addewid am afaelrwym (lease) ar y man lle saif Gwaith Haiarn Tredegar arno, yn ffodus iawn, daeth Mr. Humphrey, Penydaren, i mewn i fod yn rhanfeddianydd o Weithfa Tredegar. A chan fod Mr. Humphrey yn frawdynghyfraith i Sir CHARLES MORGAN, TREDEGAR FAWR, llwyddasant i gael gafaelrwym (lease) ar y fan ddewisedig ganddynt. Ond wedi iddynt daflu golwg gyffredinol ar y lle, fel man cyfleus i adeiladu Gweithfa Haiarn, siomwyd hwy yn fawr, canys yr oedd rhyw fân diroedd mewn cysylltiad ar man dewisedig, yn eiddo i un Paul Harri, yr hwn oedd yn byw y pryd hwnw mewn amaethdy bychan, gerllaw y lle mae ystablau Tredegar yn nawr. Y'ngwyneb hyn nid oedd dim yw wneyd ond ceisio denu yr hen wr i werthu ei afaelrwym, lease. Ond yr oedd yr hen Baul yn parhau i nachâu o hyd, nes o'r diwedd i'r masiwn, yr hwn oedd yn adeiladu y Ffwrnesi, i ddenu yr hen wr ar y cruse, fel y dywedir. Ac yn llechwraidd fel hyn llwyddodd arno i werthu ei hawlfraint o'r tir, hwyrach ag oedd wedi bod am ganoedd o flynyddoedd yn meddiant ei deulu,a hyny am ryw swm fechan o arian ar lawr, ynghydag wyth swllt yr wythnos tra byw!! Ond nid efe yw'r unig Esau y'mhlith y Cymry, a werthodd ei enedigaeth fraint am un saig o fwyd. Wedi cael pob peth i gyddaro fel hyn, awd ymlaen a'r gorchwyl o adeiladu. Adeiladwyd y tair Ffwrnes gyntaf rhwng y flwyddyn 1800 a 1801, ond ni ddichreuwyd eu gosod dan Flast cyn y flwyddyn 1802. Cadarn-