Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi gorphen o honynt y llecheirnfa, pudling, yr oedd mor anhawdd iddynt gael gweithwyr oedd yn deall ei gweithio ag oeddynt i gael toddwr, founder, i weithio y Ffwrnesi. Ond i gyflawni y diffyg hwn, anfonodd Mr. Humphrey, Penydaren, ryw nifer o hen weithwyr i Dredegar i ddechreu y puddling, ac i ddysgu ereill. Yn eu plith yr oedd Thomas Hughes, David Morris,[1] a James Matthews, tad Mr. Matthews, yr hwn fu'n brif arolygydd y Felin Newydd. Dyma'r amser, sef yn 1807 y dechreuodd Cwmpeini Tredegar wneyd haiarn yn barod i'r farchnad; a llwyddasant i gael cymeradwyaeth nid bychan yn y marchnadoedd haiarn, a hyn oedd prif achos ei gynydd graddol. Wedi i weithfa haiarn Tredegar fel hyn wneyd ei hun yn gyhoeddus i'r byd masnachol, daeth galwad anghyffredin am ei haiarn, fel y bu gorfod arnynt brynu metel am rai blynyddau o waith haiarn Rumni. Mae'r ysgrifenydd yn cofio am hyn,—sef fod un Thomas Davies yn cludo metel mewn men pedair olwyn o Rumni i Dredegar, a hyny am rai blynyddau. Ond y peth mwyaf ei bwys mewn cysylltiad a llwyddiant a chynnydd y gwaith oedd, nad oedd ffordd o Dredegar i Gasnewydd, idd y dyben o drosforu'r haiarn. Am hyny anfonasant ddeiseb i'r Senedd i gael cledrffordd o Dredegar i Casnewydd, a llwyddasant yn eu hamcan. Ar ol hyn awd y'nghyd a gwneyd y ffordd am dymor, temporary, ond bu rai blynyddau cyn dyfod i'r perffeithrwydd y mae ynddi 'nawr. Un o'r rhai cyntaf a gludodd haiarn ar hyd y gledrffordd newydd hon oedd Morgan Saunders,—a'r un cyntaf a dorodd y telpyn glo (yr hwn oedd o faintioli anferth, yn pwyso tua dwy dynell) oedd George Williams—maent eill dau yn y bedd er's llawer blwyddyn. Tua'r amser hwn, sef 1812, y gwnawd y llyn sydd yn myned dan yr enw "Pownd y Brynbach." Ac idd y dyben o rhwyddhau masnach mynodd y Cwmpeini geiniogau gopr wedi eu bathi, ac arnynt "Tredegar Company, One

  1. Tad yr hanesydd.