Penny Token, 1812." Gwelwn yn amlwg, wedi i'r Cwmpeini gael pob peth i gyd—daro, yr oedd y gwaith yn myned y'mlaen yn hwylus. ac yn cynyddu. Yn y ffwyddyn 1817 adeiladwyd rhif 5ed, No. 5, a helaethwyd y balling a'r pudling. Ar yr olwg hyn gellir dywedyd am Dredegar fel y dywedai Gildad wrth Job gynt. "Er fod dy ddechreuad yn fechan, eto dy gynnydd a fydd yn ddirfawr."
Y pryd hwn yr oedd Mr. Forman, Penydaren a Mr. Thompson, Llundain, yn rhanog yn y gwaith, yn ffurfio y Cwmpeini cryfaf ar y llinell haiarn, iron line. Yr oedd Mr. Thompson yn cael ei ystyried yn un o'r dynion cyfoethocaf yn y Deyrnas, hefyd yn un o'r marchnatawyr goreu yn y farchnadfa haiarn. Tua 18 mlynedd yn ol, daeth i dalu ymweliad a Thiedegar, a chafodd ei daro yn glaf,—a bu farw mewn ychydig ddyddiau, er colled, nid bychan, i Waith Haiarn Tredegar. Yn y flwyddyn 1834 adeiladwyd melin haiarn newydd, yr hon a elwir y Guide—mill. Yr oedd y Gwaith pryd hyn yn myned y'mlaen yn hwylus a llwyddianus iawn, fel bu gorfod ar y Cwmpeini adeiladu un o'r melinau haiarn mwyaf ar y llinell haiarn—yn cynwys pedair melin, neu bedwar par o roliau, rolls. Dyma ni 'nawr wedi dilyn y Gwaith o'i ddechreu i'w ddiwedd, namyn yr ogwyddffordd, incline, a wnawd yn amser y bythgofiadwy Mr. Davies, yr hon sydd yn dwyn i mewn i'r Cwmpeini tua £500 yn y flwyddyn, Ond bu farw y dyngarwr enwog hwn; ond bydd ei enw yn uchel ac anrhydeddus o genedlaeth i genedlaeth.
ADFEDDYLIADAU.
Y Mwnwyr a'r Glowyr.—Pan ddechreuwyd gwaith haiarn Tredegar, yr oeddynt yn codi mwn at y gwaith trwy glirio ymaith wyneb y tir i'r dyfnder ag oedd y mwn yn gorwedd yn y tir, yr hwn a alwent hwy patch Nid oedd y cyfeir—ogofau, levels, yn bodoli yn yr amser