Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn, oherwydd fod y mwn y pryd hyny i'w gael mor agos i wyneb y tir—ond ni fuwyd yn hir cyn gweled yr angenrheidrwydd o Gyfeirogofau, Levels. Yr oedd Mr. Theophilus Jones, pan yn fyw, yn un o'r meistri level henaf,—a threuliodd y rhan fwyaf o'i ddyddiau fel y prif arolygydd tanddaearawl Tredegar. Enwau y mwn a godir yn ngwaith Tredegar ydynt—y wythien goch, y wythien lâs, y wythien dlawd, pin Siencin, pin garw. Enwau'r glo—hen lo, gloyn tan, cilwych, llathed, trichwarter, gloyn llathed, gloyn mawr heled, bedelog, glo engine, glo bach, &c. Y cyfeirogofau (levels) cyntaf oedd level Brynbach, level y brewhouse, a level y yard. Ac er cymaint o fwn a glo a godwyd o ddechreuad y gwaith hyd yn awr mae digon o hono y'ngrombil y ddaear am ganoedd o flynyddau eto. Er y clywir dynion yn siarad fel hyn weithiau : "dear anwyl, beth ddaw o'r tai a meddianau y dynion sydd a hwy 'nol i'r gweithfeydd ddarfod?" Ond bydd y gweithfeydd haiarn yn bodoli rhwng bryniau Gwalia hen pan bydd wyrion, ie, orwyrion y plant sydd y'nawr wedi meirw. Dywed yr enwog Ddaearegwr, Mr. Llewelyn, Pontypool, y pery cae glo Cymru ei weithio am saith cant o flynyddau eto. A dywed un gwr galluog arall—fod digon o lo y'Nghymru ei hunan i ddiwallu y deyrnas hon am ddwy neu dair mil o flynyddau. Am hyny na ddigaloned neb y'ngwyneb hyn, Fe ddaw Rhagluniaeth lawn a'i thoraeth iach, helaeth yn ei chol. Er bod mewn prinder, cawn fyw mewn llawnder, mae'r amser goreu 'ol. Prif arolygyddion y gwaith y'nawr yw Mr. Reed a Mr. Bevan. Ond mwy na thebyg yw fod holl ofalon y gwaith o tan y ddaear ac ar y ddaear—yn pwyso yn drwm ar ysgwyddau Mr. W. Bevan, Ash Vale-house. Wedi myned o honom fel hyn dros fanylion gwaith haiarn Tredegar—mae un peth sydd yn teilyngu ein sylw manylaf, sef Samuel Homphrey, Yswain, yr hwn fu yn brif arolygydd ar waith haiarn Tredegar am 48 o flynyddoedd, iddo ef yn unig mae y Cwmpeini yn ddyledus am lwyddiant a chynydd gwaith haiarn Tre-