degar. Yn ei amser ef yr adeiladwyd yr holl waith o'r flwyddyn 1817 hyd at amseriad y Felyn Newydd, yn 1849. Ar ei ysgwyddau ef, fel prif arolygydd, y gorweddau holl bwysau a gofalon y gwaith; a gallwn sicrhau hyn—na fu un gwaith haiarn ar fynyddau Cymru yn myned y'mlaen yn fwy hwylus a rheolaidd na gwaith haiarn Tredegar, o dan olygiad Samuel Homphrey, Ysw. Hwyrach y beiir arnaf am beidio tynu ystadegau o'r haiarn a wnawd trwy'r holl amser y'ngwaith haiarn Tredegar. Wel, nid gwaith anhawdd fyddai hyny, ond cael gwybod pa faint o amser y buont yn segur. Ond fel y maent y'nawr mewn gwaith, a gadael eu bod yn gwneuthur 80 tynell yr wythnos, byddai hyny i naw ffwrnes yn 37,440 yn y flwyddyn.
Bydded i'r darllenydd manylgraff gofio, fy mod yn cyfrif amser S. Homphrey, Ysw., o'r amser y daeth i fod yn brif arolygydd gwaith haiarn Tredegar, hyd yr amser y gwerthodd ef ei hawl ac yr ymneillduodd o fod yn rhanfeddianydd yn y gwaith.
Wele fi wedi rhoddi braslun o hanes gwaith haiarn Tredegar—fel drws agored i'r neb a fyno ymhelaethu arno.—Byddwch wych.