Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BRASLUN
O
HANES FONTGWAITHYRHAIARN.




PONT-GWAITH-YR-HAIARN sydd rhyw fath o bentref bychan a dinod, ar lan afon Sirhowy, o ddeutu tair milldir a haner goris Tredegar. Cafodd yr enw hwn arno oddiwrth y ffwrnes a fu yno yn toddi haiarn flynyddoedd meithion yn ol—a saif yr enw hwn ar y lle, hwyrach, tra b'o afon Sirhowy yn golchi traed clogwyni Manmoel, a gwae fyddai i ên y gwr a gynygai newid yr enw hwn a gysegrodd yr hen ffwrnes arno, gan Arglwyddes Hall, Llanover, (Gwenynen Gwent,) am mai yr Arglwyddes yw perchenog y lle; hefyd ei sel a'i brwdfrydedd dros gadw i fyny yr enwau Cymreig sydd ar lefydd y'Nghymru. Haner can' mlynedd yn ol, sef yn y flwyddyn 1818, y telais ymweliad gyntaf a Phont—gwaith—yr—haiarn. Y pryd hyny nid oedd achos i'r hynafiaethydd mwyaf manylgraff, betruso am funud yn ei feddwl am fodolaeth hen ffwrnes Pontgwaith—yr—haiarn, canys yr oedd y tyrau duon o farwor cinders, oedd yn ei amgylchynu yn brawf digonol dros fodolaeth ac hynafiaeth yr hen ffwrnes hon. Ac er fod y tyrau duon o farwor oedd yn ei amgylchynu wedi ei gordoi a glaswellt, a'r hen ffwrnes hefyd wedi chuddio bron gan ddanadl—ac fel un wedi ei llwyr esgeuluso gan fys traddodiad—a'i dibrisio gan hanesyddiaeth eto mae hi fel un am hawlio ei bod mor hen, os nid yn hynach, nag un o hen ffwrnesi Cymru :megys ffwrnes Pont-y-gwaith, yn mhlwyf Merthyr, ffwrnes Pontyrhun, flwrnes Cwmywernlas, ffwrnes Melin y Cwrt a hen ffwrnes Caerphily. Yn ystod yr haner can mlynedd a dreuliais yn y lle hwn, sef Tredegar, dia mau imi fod ddegau o weithiau yn Mhontgwaithiarn, a phob tro yn holi y trigolion o berthynas i BONT gwaith-yr-haiarn; ond byddai yr