Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un peth imi ofyn i ddyn y lleuad a gofyn iddynt hwy, canys yr ateb oedd, "Ni wyddom ni ddim." Ond pa ryfedd oedd, canys dyfodiaid oeddynt oll, a hen drigolion cyntefig y lle wedi meirw—heb adael ar eu hol gymaint ag un traddodiad, namyn enw y lle, sef Pont-gwaithyr-haiarn. Tua 37ain yn ol mesurais yr hen ffwrnes, a chefais ei bod yn mesur tua 40 troedfedd o amgylchedd, circumference, a'i thryfesur, diameter, yn ddeg troedfedd a thair modfedd. Ond bum yn talu ymweliad yn ddiweddar a'r hen ffwrnes, ac er fy siomedigaeth, nid oedd namyn 30 troedfedd o amgylchedd, a'i thryfesur yn ddeg troedfedd. Hwyrach y gellir priodoli hyn i'r dirywiad a wnaeth amser arni yn ystod y 37 mlynedd sydd wedi myned heibio,—am ei bod yn awr yn gydwastad a'r ddaear, ie, dair troedfedd, neu ragor yn is yn awr na phan gwelais hi gyntaf.

Ond wedi ymdroi fel hyn amgylch ogylch yr hen ffwrnes, rhaid imi bellach arwain y darllenydd at y ffeithiau sydd yn profi, yn ddiymwad, fodolaeth Pontgwaith-yr-haiarn.

"A wado hyn aed a hi,
A gwaded i'r haul godi."

Tua dwy flynedd ar bymtheg ar ugain yn ol, aethym i le a elwir Llaniddel i weithio wrth fy ngelfyddyd a phwy gyfarfyddais yno ond Mr. Rees Davies, mab Mr. Rees Davies, yr hwn a adeiladodd ffwrnesi Tredegar, o rif y cyntaf hyd rhif y bumed Yr oedd Mr. Davies wedi bod yn Ffrainc am rai blynyddau yn cadw gwaith haiarn. Ond wedi i'r chwyldroad yn Ffrainc ddechreu, dychwelodd yn ol i Gymru yn foneddwr cyfoethog a chymmeradwy dros ben — a chymerodd at dawdd-dy, foundry, Llaniddel. Un diwrnod cyfarfyddais a Mr. Davies, a dywedodd wrthyf ei fod o'r diwedd, wedi cael allan hanes Pont-gwaithyr-haiarn i'r manylion. Gyda phwy Syr, atebais inau. Gyda Mrs. Thomas—hen foneddiges ag sydd wedi cael ei chaethiwo gan henaint rhwng echwynion ei gwely—yn y ty ag sydd wrth ochr y foundry. Mae'r