Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

foneddiges hon yn famgu i Mr. John Thomas, Pontymeistr, gynt——ond yn awr yn Ffrainc. A dywedodd Mr. Thomas wrthyf, pan oeddwn yn Ffrainc, mai ei dylwyth of a ddechreuodd Pont-gwaith-yrhaiarn,a dyma ei eiriau oll wedi eu gwireddu gan ei famygu— "a dos dithau at Mrs. Thomas, a diau y bydd iddi roi yr un manylion i ti fel ag y cefais inau hwynt—canys y mae ei chof yn lled dda wrth ystyried fod ei hoedran yn bedwar ugain a phump o flynyddau.—Oes hir onite ddarllenydd?

Parodd y newydd hwn rhyw anesmwythder yn fy meddwl—ac anesmwyth y bu'm hefyd, nes imi weithio'm ffordd i gael ychydig o ymgom a'r hen wraig barchus hon. Craffed y darllenydd ar yr ymddiddanion a fu rhyngom, canys nid oes genyf ddim, ond a ddywedodd hi wrthyf, fel sylfaen dros fodoliaeth ac hynafiaeth Pont-gwaith-yr-haiarn—a gobeithiaf fod hyny yn ddigon i undyn mewn pwyll a synwyr, pan yr ystyrio o enau pwy y daeth allan.

Yr Ymddiddan.— Wedi talu moes—gyfarchiad i'r hen foneddiges, dywedais wrthi—"Mae yn debyg Mrs. Thomas eich bod chwi yn cofio ffwrnes Pont—gwaithyr—haiarn yn gweithio?" Ydwyf, 'machgen i—yno oedd fy nhad yn gweithio pan ganwyd fi—yno oedd tylwyth fy ngwr wedi hyny yn gweithio." Pa le yr oeddynt yn cael glo Mrs. Thomas?" "Nid glo oeddynt yn ddefnyddio y pryd hyny, ond cols coed; yr oedd y llywodraeth yn erbyn llosgi glo y pryd hyny, am ei fod, meddent hwy, yn gwenwyno yr awyr." Beth oedd ganddynt yn chwythu'r tan y pryd hyny Mrs. Thomas" "O, meginau." "A fu eich tylwyth yn byw yn Mhont—gwaith—yr—haiarn?" Naddo; ond yr oeddynt yn lletya yno, ac yn cyrchu tre bob nos Sadwrn, i Dwyn-yr-odyn, Merthyr; a phan ddelai dydd Llun, cymerent lwybr llygad oddiyno i Bont-gwaith-yrhaiarn." A wyddoch chwi Mrs. Thomas yn mha le yr oeddynt yn cael mwn tuag at wneyd haiarn?" "Yn nghymydogaeth y Bont yr oeddynt yn ei gael, ond nis