gwn yn mha le yno." "Pa un a'i Cymry neu ynte Seison oedd y meistri?" "Cymry meddent hwy oeddynt, ond Cymry o Ffrainc oeddynt; dau foneddwr heb eu bath oeddynt hefyd—coffa da am danynt." "Mae yn wir Mrs. Thomas i fod cenedl o Gymry yn gwladychu yn Ffrainc er ys deuddeg cant o flynyddau, y rhai a alwn ni yn Llydawiaid." "Wel dyna nhwy." "Wel, beth a ddaeth o'r boneddion hyn?" "Wel, aethant i dir eu gwlad, sef Ffrainc, ond er hyny, buom yn cael llythyrau oddiwrthynt am rai blynyddau, canys yr oedd fy nylwyth i—sef y Thomasiaid, Twynyrodyn, Merthyr, yn ddynion cymeradwy iawn yn eu golwg a'u meibion hwy a ddenasant John, fy wyr, o Bontmeistr i Ffrainc i gadw gwaith haiarn—a dyna lle mae ef y dydd heddyw." "Beth oedd eich oedran y pryd hyny?" "Wel, gallwn fod o ddeg i ddeuddeg mlwydd oed." "Beth yw eich oedran yn awr?" "Wel, yr wyf yn bedwar ugain a phump." Amlwg yw pe byddai yr hen foneddiges hon yn fyw yn awr, y byddai yn chwech ugain ac wyth mlwydd oed. Wel, dyna i chwi sylwedd yr ymddiddanion a fu rhyngof a'r hen foneddiges oedranus hon o berthynas i Bont-gwaith-yr-haiarn; a phe buaswn heb eu chroniclo yr amser hwnw, diamau genyf, y buasai hanes Pont-gwaith-yr-haiarn wedi ei golli yn llwyr, hwyrach am byth. Yn y man hyn, teg yw hysbysu'r darllenydd—y gall yr ysgrifenydd ei gyfeirio os bydd galw, at wyrion, orwyrion, a goresgynyddion yr hen foneddiges hon, a hyny heb fyned 10 milldir o ffordd.
Y casgliad naturiol oddiwrth yr uchodion, yw, i'r Llydawiaid ddyfod drosodd i Gymru at eu cydgenedl, yn amser y rhyfel boeth oedd rhwng Lloegr, Ffrainc, a Spaen, yn nheyrnasiad Sior yr ail, ac iddynt, wedi'r heddwch a wnawd yn y flwyddyn 1748, yn nheyrnasiad yr un brenin fyned (o fewn i ddwy neu dair blynedd,) yn ol i Lydaw, yn Ffrainc. A chasgliad naturiol arall yw, iddynt adeiladu ffwrnes Pont-gwaith-yr-haiarn tua'r flwyddyn 1738 neu 1739. Yn amser y brenin