Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ℍ𝔸ℕ𝔼𝕊 𝕋ℝ𝔼𝔻𝔼𝔾𝔸ℝ.

Pen . I. — RHAGLITH I'R HANES.

NID gwaith hawdd, ond anhawdd dros ben, yw ysgrifenu hanesyn cywir, cryno, a chyflawn am "Ddechreuad a chynydd Gwaith Haiarn Tredegar," am fod rhwystrau anorfod, braidd, ar y ffordd, fel nas gall yr hanesydd mwyaf manylgraff, bron, eu gorchfygu,—o herwydd a ganlyn. Gwyr pawb ac sydd yn gwybod ychydig neu ddim am y Gweithfeydd Haiarn, os bydd Ffwrnes wedi bod ugain neu ddegarugain o flynyddau dan Flast, fel y dywedir, ei bod yn ei thynu i lawr i'r dyben i roi Aelwyd newydd ynddi. Yn y cyfamser tynant i lawr y Tawdd—ddyddiad (Casting—date) oedd ar enau y Ffwrnes, gan ei daflu i'r malurion (rubbish), a gosod yn ei le ar enau yr Aelwyd newydd dawdd— ddyddiad arall, sef o'r flwyddyn y gosodwyd yr Aelwyd ddiweddaf i mewn. Er engrhaifft. Cefais ar fy meddwl yn ddiweddar i dalu ymweliad a hen Ffwrnesi yn Ngwaith Haiarn Tredegar, lle bum yn ymdwymo weth eu gwres, a chysgodi rhag llawer cafod oer o dan eu magwyrydd, er's mwy na 40 mlynedd ol. Gan mai fy unig neges oedd cael allan oedran yr hên Ffwrnesi, cyfeiriais fy nghamrau tuag at yr hen Ffwrnes, Rhif 3ydd, No. 3. yr hon oedd, feddyliwn, tua 60 mlwydd oed. Ond, cefais fy siomi yn fawr, pan welais ar enau yr hen Ffwrnes y dyddiad hwn—1861. Wel, meddwn wrth y toddwr, founder, yr hwn oedd gerllaw imi, "Mae yr hen Ffwrnes dros 60ain mlynedd yn ieuengach nac oeddwn i yn meddwl ei bod." "O" meddai'r Toddwr, yr ydys wedi bod yn gosod Aelwyd newydd ynddi." "Pa le mae'r hen Aelwyd y'nghyda'r dyddiad date?" "O" atebai'r toddwr, maent y'mysg y malurion, rubbish, yna yn rhywle :"—felly yr holl hen Ffwrnesi eraill namyn Rhif 5ed, No. 5, y'nghyda'r pedair Ffwrnes a elwir Cubilos. Gwelir yn amlwg