Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiwrth hyn, a phethau eraill a allesid en henwi, fod yn ofynol fod yr hanesydd wedi byw flynyddau meithion yn y lle—a'i fod wedi ymgyfeillachu llawer iawn a'r hen drigolion cyn y gall dynu ymaith y mwswn sydd wedi tyfu ar hynafiaeth Gwaith Haiarn Tredegar. Ar byd y tir hwn yr ymlwybraf, gan gadw mewn golwg hynafiaeth Tredegar yn brif-nod i'm hymchwiliadau. Ni bydd imi, am y tro hwn, gyfyngu fy hun at goethder iaith nae orgraff, namyn traethu fy llen mewn iaith sathredig a dealladwy—"llafar gwlad." Nid am nad yw'r iaith Gymraeg yn ddigon cyfoethog i roi tri gair am bob un i'r Saesonaeg; ond am fod y Saesonaeg wedi bod mor aflwyddianus a rhoddi enwau mor ddiystyr a dienaid ar bethau perthynol i'r Gweithfeydd Haiarn, fel nad ydynt yn rhoddi meddylddrych lleiaf am y weithred na'r gweithydd. Gan nad oes a fyno y Testyn ag ystadegau masnachol na chrefyddol, ymateliais oddwrth hyny, gan ddilyn fy nhestyn wedi imi gael gafael—arno Medi 30sin, 1862.

PENNOD II.

{{|HANES DECHREUAD A CHYNNYDD GWAITH HAIARN TREDEGAR.}}

——————

Glyn Sirhowy—Braslun neu ddesgrifiad o hono.

Cynhwysiad—Glyn Sirhowy—yr Afon—Traddodiad y'mysg yr hen drigolion am darddiad ei henw— Cynyg ar roddi iawn ystyr i'r enw—Ei Beirdd.

——————

Glyn Sirhowy,—lle saif Gwaith Haiarn Tredegar ynddo, sydd tua 16eg milldir hyd; yn cael ei amgylchynu a chadwyn o fryniau talgribog,—o du y Dwyrain gan Mynyddislwyn, ac o du y Gorllewin gan blwyf Bedwellty—yn hytrach plwyf St, Sanan; yn herwydd mai St. Sanan yw enw yr Eglwys. Nid yw Glyn Sirhowy ond cul iawn yn ei ddechreuad, ond tua phum' milldir islaw Tredegar dechreua ymagor ac