Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o ddyeithriaid yn nhymor yr hâf, o wahanol barthau y deyrnas. Y mae dau westy ardderchog yn heol y castell, a elwir Bulkeley Arms Hotel, a Liverpool Arms Hotel, y rhai ydynt dra chyfleus i ddyeithriaid. Yn y gwesty cyntaf crybwylledig y lletyodd ei Mawrhydi y Frenhines Victoria am dair wythnos, yn nghyd a'i hurddasol fam, yn y flwyddyn 1832. Hefyd, bu Brenhines Ffraingc a'i gosgorlu yma yn Awst, 1855, yn aros am fis, a gwellhaodd ei hiechyd yn fawr yn yr ysbaid fer hon. Adeiladwyd yma Pier gyda thrael ynghylch 5000p, trwy gynorthwy yr hwn y galluogid y teithwyr i dirio o'r agerlongau yn uniongyrchol i heolydd y dref. Dinystrwyd hwn trwy ddamwain ers ychydig flynyddau yn ol; ond prif gefnogwyr y lle a ffurfiasant yn gwmpeini er adeiladu un newydd llawer ardderchocach a mwy cyfleus; a bydd y drael o'i ail adeiladu yn fwy o lawer na'r cyntaf. Bydd yn gaffaeliad mawr i'r dref, yn gymaint nad yw y rheilffordd wedi talu ymweliad a'r lle hyd yn hyn.

Cysegrwyd eglwys y plwyf i St. Mary a St. Nicholas. Anrhegwyd hi a chloch uchelsain gan y diweddar Arglwydd Bulkeley, yn y fl. 1819. Y fywioliaeth eglwysig sydd Berigloriaeth-rhôdd Syr Richard Bulkeley Wms. Bulkeley, Bar. Y mae yma leoedd addoliad hefyd gan y Bedyddwyr, Annibynwyr, Trefnyddion Calfinaidd a Wesleyaidd. Dechreuodd y Methodistiaid eu hachos yma yn y fl. 1800. Ceir fod yma dri neu bedwar o frodyr, ac ychydig o chwiorydd, yn ymgynull mewn tŷ bychan gwael iawn. Ar ol i'r Parch Richard Lloyd fyned yno i fyw, cynyddodd yr achos yn gyflym; fel erbyn heddyw y mae yma ddau gapel prydferth-un at wasanaeth Cymraeg a'r llall at wasanaeth Saesoneg.