Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gellir eu hystyried fel yn goffadwriaeth, os nad yn weddillion, o'r hen goedwigoedd derwyddol. Yma yr oedd trigle yr Ardalydd Môn cyntaf—hen arwr Waterloo.

Bryncelli, Plascoch a Llanedwen, ydynt dri o hen breswylfeydd yn y plwyf hwn. Y cyntaf a brynwyd gan Magdalene Bagnel, o'r Plas Newydd—Plas Coch yn bresenol, trigle W. B. HUGHES, Ysw., A.S., yr oedd yn cael ei alw ar y cyntaf y Porth Amel Isaf: adeiladwyd ef yn amser y frenhines Elizabeth, gan Hugh Hughes, Ysw, cyfeithiwr cyffredinol; a'i wyr Roger Hughes, a briododd Margaret merch ac etifeddes H. Jones, Ysw., o Langoed.

Y ty Llanedwen fu yn cael ei alw wrth amrywiol enwau, ar wahanol amserau, megys Sychdir, Ty'n-y-llwyn, Sychnant Uchaf, ac yn olaf, Llan Edwen.

PLWYF LLAN DDANIEL FAB.

Saif y plwyf hwn oddeutu saith milldir i'r dê-orllewin o Fangor; a saif yr eglwys oddeutu milldir-a-haner o Lanidan, ar y ffordd o Moel-y-don i Langefni. Cysegrwyd hi oddeutu y seithfed ganrif i St. Daniel, fab Deiniolen ap Deiniol Wyn, ap Paba Post Prydain, "sant o Fangor Maelor; a gwedi tori hono, efe a aeth i Wynedd uwch Conwy, lle y bu yn arllwybraw Côr Bangor Fawr Arllechwedd, a elwir Bangor Deiniol, yn amser Cadwaladr Fendigaid. Yr oedd ganddo eglwys arall yn Llanddeiniolen yn Arfon." (Gwel "Bonedd y Saint.")

Dywed Mr. Rowlands fel hyn:-" Daniel, who had a church near that of Llan Aiden, was son of Daniel, first Bishop of Bangor; and, therefore, the church is commonly called Llan Ddaniel Fab." Ystyr yr enw yw, "Llan y Duw sydd Farnwr."