PLWYF LLANFFINAN.
Saif y plwyf yma oddeutu chwe' milldir i'r gorllewin o Beaumaris, a saif yr eglwys yn agos i Afon Ceint: cysegrwyd hi oddeutu y chweched ganrif, i un o'r enw Ffinan, Almaenwr, ac esgob Lindisfarne, ac olynydd Aidan i'r esgobaeth hon, fel y crybwyllir gan un o'r enw Bedi. Derbyniodd y plwyf yr enw oddiwrth yr eglwys hon.
Tybir mai yr ystyr yw, "Llan-y-terfyn, neu Terfynlan."
PLWYF LLAN GEFNI.
Saif y plwyf hwn yn agos i ganolbarth yr ynys hon, a tardda ei enw oddiwrth afon Cefni, yr hon sydd yn rhedeg trwy ganol y lle. Cysegrwyd yr eglwys i St. Cyngar, mab Garthog ap Caredig, ap Cunedda, yn ol y Dr. W. O. Pughe: ond dywed Mr. Rowlands, ei fod yn ewythr i Cybi, mab Geraint ap Erbin.
Teimlir ychydig anhawsder i gael allan beth yw tarddiad ac ystyr enw afon Cefni; tybia rhai iddo darddu oddiwrth ryw sant o'r enw Gefni, ond nad yw yn hysbys mewn hanesiaeth. Eraill a dybiant iddo darddu oddiwrth ansawdd y lle, oherwydd ceir arwyddion eglur fod gorlifiad mawr wedi cymeryd lle yma yn rhyw gyfnod yn oes y byd—y mae y nant a'r fosydd dyfnion oddiamgylch y lle yn cadarnhau y dybiaeth yma. Dywedir y bu môr y yn dyfod yn agos i Langefni, cyn codi argae neu gob Malltraeth, ac iddo orlifo yn rhyw gyfnod, fel y galwyd y lle mewn canlyniad yn Llan-y-cefn-llif.
Hefyd, ceir lle arall yn agos yn dwyn y cyffelyb ystyr, sef "Careg-y-forwyllt," (eruption rock); y mae hŵn wedi derbyn yr enw oddiwrth y cynhwrf a wna'r dwfr