Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

54

Hanes ac ystyr Enwau

wrth redeg rhwng y ceryg mawr sydd yn afon Cefni. Tybir mai llygriad yw'r gair Cefni o Cefnllif.

Mae'r eglwys bresenol yn lled newydd ; a phriodolir ei hadeiladu i'r diweddar Arg. Bulkeley. Rhoddodd y tir , -cyfranodd yn deilwng o hono ei hun fel boneddwr tuag ati ; ac adeiladodd bersondy hardd yn nglyn a hi, yr hwn sydd yn un o'r rhai harddaf yn Môn .

Y mae yn y dref addoldai cyfleus gan y pedwar enwad Ymneillduol Cymreig. Yma hefyd y cynhelir Cwrt y mân ddyledion (County Courts ). Ar ddydd Iau y cyn helir y marchnadoedd ; a'r ffeiriau ar Ion . 2, Maw . 14, Ebr. 17, Meh. 10, Awst 17, Medi 15, Hydr. 23, a'r 6 marchnad wedi hen Galan a'r Nadolig Newydd ; a

gellir eu hystyried y cynulliadau lliosocaf yn Môn . Tref Garnedd . - Y mae'r lle hwn yn sefyll oddeutu milldir o bentref Llangefni. Tardda ei henw oddiwrth garnedd fawr o geryg ( sepulchral heap of stones ) yr hon sydd mewn cae cyfagos. Yr oedd y lle hwn ar y cyntaf yn breswylfa Ednyfed

Fychan , dewr -lywydd byddinoedd, a phrif gynghorwr Llewelyn Fawr, a chyndad Owain Tewdwr ; ac hefyd

i'r pendefigion, y rhai a'i dilynasant i orsedd Lloegr. Yr oedd hefyd yn lle genedigol Syr Gruffydd Llwyd , ŵyr Ednyfed ; yr hwn a wnaed yn farchog gan Iorwerth I., yn nghastell Rhuddlan , yn y fl. 1284, pan aeth i'w hysbysu am enedigaeth ei fab Iorwerth II ., yn nghastell Caernarfon. At yr amgylchiad yma y cyfeiria Ceiriog yn y geiriau canlynol yn nghantawd Tywysog Cymru : « A'r brenin mewn eiliad , heb ofyn ei genad , Wnaeth Gruffydd yn farchog , oyn symud o'r fan ! "

ond, er yr anrhydedd yna i gyd, dywed yn mhellaeh : - AChymro fel arfer yw Gruffydd Tre'rGarnedd, Ffyddlonach o'r baner i faner y Ddraig !"