Yn y fl. 1317, anturiodd Gruffydd i ffurfio cyngrair gyda Iorwerth Bruce, yr hwn a gymerodd teyrn—goron Iwerddon; ac yn y fl. 1322, gwrthgiliodd yn amlwg i anrheithio yr holl wlad, a gorchymynodd amryw weithredodd echryslawn. Rhoddodd y Saeson aergad iddo nes y gorfu iddo encilio i'w amddiffynfa yn Nhregarnedd, yn yr hon y gwarchfyddinoedd yn flaenorol. Hefyd, adeiladodd ef loches gadarn arall—"Ynys Cefni," yn y morfa ychydig bellder oddiwrth ei drigfan. Amgylchynid yr amddiffynfa hon gan ffos lydain a dofn. oedd olion yr hen amddiffynfa hon yw gweled ychydig flynyddau yn ol os nad yn awr hefyd. Cadwodd ei hunan am amser yn y sefyllfa gadarn hon, ond o'r diwedd cymerwyd ef yn garcharor a chludwyd ef i Gastell Rhuddlan, ac yr fuan wedi hyn torwyd ei ben yn y lle hwn. Y mae safle Tregarnedd yn awr yn cynwys adeiladau amaethyddol. Nodir allan ei helaethder gan glawdd sydd o'i hamgylch. Ei harwyneb sydd yn agos i bump aer. Tybia rhai hynafiaethwyr fod rhan o hen ffordd Rufeinaidd i'w gweled, yr hon gynt oedd yn arwain o Moel-ydon ferry ar draws Menai i orsaf Caergybi. Pan gymerwyd i lawr yr hen eglwys Llangefni yn y fl. 1824, cafwyd hyd i gareg fawr o dan ei sylfaen gydag amryw argraffiad au cywrain mewn llythrenau Rhufeinaidd. Hyn yn unig sydd yn ddarllenadwy "Cvlidon Jacit Secverd." **** Yr oedd wedi ei gosod mewn lle unionsyth yn y fonwent, ar y fan lle yr oedd hi wedi ei chael yn y fl. 1829. Wrth symud rhyw glawdd bychan yn ymyl Glanhwfa, yn agos i'r dref, cafwyd hyd i ddeugain o weddillion dynol skeletons, y rhai oddiwrth eu gosodiad yn y lle yr oeddynt yn gorwedd, a ddengys iddynt gael eu claddu mewn prysurdeb, Ac mewn maes yn gysylltiedig a'r lle y
Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/63
Gwedd