Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn bedwerydd gyda llanciau Llansannan; ac ni a ganlynasom arni am flwyddyn.

Ac yn ol hynny, oblegid euogrwydd cydwybod, ac hefyd fy mod yn caru merch oedd yn tueddu at grefydd, wrth i mi ddyfod o le a elwir y Ro Wên, gerllaw Tal y Cafn, mi a daflais y cap cybydd tros ochr yr ysgraff i Afon Gonwy.

Ac yn 24 o oedran mi a briodais fy ngwraig, ar y 19 ddydd o Chwefror, yn y flwyddyn 1763. A merch inni a anwyd yn yr un flwyddyn, Rhagfyr 26.

Ni a gychwynasom sefydlu ein bywoliaeth yn y Bylchau, ar fin y ffordd o Nantglyn i Lansanan, tyddyn ag oedd yn perthyn i'r Nant; ond fy mhobl i, yn enwedig un chwaer, oedd yn erbyn i ni aros yno; a minnau a gymerais ryw le bach islaw tref Ddinbych, a elwid yn Ale Fowlio. Buom yno gylch dwy flynedd, yn cymeryd gwair a phorfa oddiamgylch, ac yn cadw tair buwch a phedwar ceffyl, a'm gwaith oedd cario coed o Waenynog i Ruddlan. Ac yr oeddwn yn rhagori ar bawb o'r cariers eraill ar lwytho ac ar bob triniogaeth oedd yn perthyn i drin coed; ac o ran hynny byddai rhaid i mi helpu a ffwndro gyda hwynt yn y coed, hyd oni aeth fy ngwraig i rwgnach fy mod mor ffol a chadw y ceffylau oddi wrth eu bwyd, a'm poeni fy hunan gyda phobl eraill.