Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffordd ag yr oedd y ganwyll; oblegid fod yr hen ffordd yn llawn o'eira.

A tiro arall rhyfedd am hên ŵr o Gaefyrddin, a fyddai yn cario pysgod i Aberhonddu, a'r Femmi, a Monmouth ac yn dyfod a Gloucester cheese teneuon gantho yn ol; yr oedd fy mhobl i yn gwybod ei fod ef ar ei daith, ac yr oedd yr hîn yn ddrycinog iawn, o wynt ac eira luchio; a chanol y nôs, fe glywai fy merched i lais yr hên ŵr yn y gate, a'u mam a'u galwodd hwynt i agor ar frys, ac erchi'r hen ŵr ddyfod at y tân. Codi a wnaeth y ferch; orbyn myned allan nid oedd yno neb; a thranoeth dyma gorph yr bên ŵr yn dyfod ar drol, wedi marw yu yr eira ar fynydd Tre'r Castell: a dyna'r gwir am hwnw.

Llawer yn rhagor a ellid adrawdd o'r fath bethau; ond nid ydynt ddim gwerth eu hadrodd, am nad oes fawr a'u coeliant.

Ond ar ol y drydedd flwyddyn y gate mi a gymmerais lease yn Llandeilo Fawr, ac a wuaethum dŷ i'r merched gadw tafarn, a minnau o hyd yn cario coed; fe ddarfu i'r merchant yn Abermarlais adeiladu long fechan, a gariai o gwmpas 30 neu 40 tunell; fe a'i gwnaeth hi yn y coed, cylch milltir a chwarter oddiwrth Afon Tywi, pa un fyddai yn cario llestri bychain ar lif i Gaerfyrddin; ond hon a wnaed yn rhy drom i'w lusgo at yr afon yn y dull yr oedd y gwr yn bwriadu; sef i bobl ei llusgo, o ran sport; fe roes grî mewn pedair o lanau, bod llong yn Abermarlais i gael ei launchio ryw ddiwrnod pennodol, ac y byddai fwyd a diod, i bawb-a ddelai i roi llaw at yr achos. Felly fe ddarllawodd bedwar hobaid o'n mesur ni yu Ninbych, sef dau dêl yno; ac fe