Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am i'r Arglwydd gymeryd trugaredd arno, a rhoddi iddo le yn ei dy, ac enw yn mhlith ei bobl.

Y mae y Gymdeithas lwyrymataliol wedi ateb dyben goruchel yo amgylchiadau Tomos Williams, megis y gwelir yn amlwg. Bu iddo ef yn ymgeledd i'w godi ar ei draed fel creadur rhesymol i gychwyn ar lwybrau rhinwedd; ac er ei gynorthwyo i enill ymddiriedaeth y rhai a'i hadwaenent; canys yr oedd efe cyn myned yn llwyrymataliwr wedi myned tu allan i bob cylch yn y wladwriaeth; ac wedi ffurfio cylch iddo ei hun nad oes neb yn fynych yn troi yn ei gyffelyb; a'r cwbl oll er porthi angerddoldeb y chwantau ynfyd a niweidiol oedd ynddo. Wrth edrych dros yr hanes y mae yn drueni meddwl i amser dyn gael ei dreulio nid mor ddiwerth ond mor lygredig. Cafodd ei gychwyn allan heb addysg dymorol nac ysbrydol, mewn teulu tylawd; yr oedd yn rhyhwyr ei gael o'r ffordd. Ni chafodd gelfyddyd i'w dilyn; ond yr oedd ei gychwyniad allan yn arwain i segurdod ac i bethau gwaeth. Nid oedd ryfedd i'r Iuddewon ddyweud mai yr un peth oedd magu plentyn heb grefft a'i fagu yn lleidr. Pa swydd salach a allasai plentyn yn ei oed ef gael na dal penau ceffylau boneddigion, fel y geilw efe y rhai oedd yn dyfod i Lanrwst, y pryd hwnw; a gwneuthur man negesenau ar hyd y dref yr oedd hyny yn ei arwain yn union i ymofyn am ryw swydd segur; megis, glanhau esgidiau a chael myned yn ostler neu yn farchogwr; gan ei ddwyn ar unwaith i safn profedigaeth nad oes prin un o gant heb fyned yn ysglyfaeth iddi. Dyma y dosbarth tebycaf i anifeiliaid a drinir, ac a yrir ganddynt, ag sydd i'w gael yn yr holl fyd adnabyddus. Y maent yn dechreu eu gyrfa mewn twyll,