Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Calfinaidd, ac nid oedd ysgol Sul wedi dechreu; ond yr oedd ysgol ddyddiol ddigon rhad i'w chael i'r tylotaf o honom. Rhoddwyd finau ynddi am ychydig; ond deuais oddiyno cyn dysgu darllen na dim arall o les; a thrwy fy mod yn un o unarddeg o blant, a fy rhieni yn dylodion , yr oedd yn rhaid i mi fel hwythau ymdrechu enill rhywfaiat can gynted ag y gallwn. Arferwn ddal penau ceffylau boneddigion, a gwneud negesau a mân orchwylion hyd y dref. Byddai hen foneddigesau Maenan yn fy ngalw yn Tom Ddrwg. Pan oeddwn oddeutu deg oed , aethum at benau ceffylau rhyw gariwr oedd yn sefyll ar yr heol, a gofynodd y dyn i mi fyned gyda'r drol a'r ddau geffyl ychydig yn mlaen i'r naill du i'r dref, tra byddai yn myned i ryw dŷ; dywedais inau yr awn. Nid oeddwn yn gwybod fod gwahaniaeth rhwng gwaeddi ho, neu height, wrth y ceffylau, mwy na rhywbeth arall; a phan oeddwn yn myned dros bont lled gul , gwaeddais ho yn lle height, a nesodd y ceffylau ataf, nes y gwasgwyd fi rhwng yr olwyn ar wal, ac aeth fy ysgwydd o'i lle: a bu chwarter blwyddyn cyn llwyr wellâu. Byddai plant y dref yn arfer myned i chwareu hyd ffordd o'r bont fawr at Wydyr; ac un tro dygwyddodd fod yno luaws o fulod, a pherswadiodd y plant ereill fi i fyned ar gefn un o honynt, rhoisant ddrain a dail poethion dan ei gynffon yn ddiarwybod i mi; a chyn gynted ag y gollyngwyd ef, rhedodd yn mlaen nes y syrthiais a thori fy mraich . Cariwyd fi i'r dref, a bum yn sâl am dri mis.

Pan oeddwn oddeutu deuddeg oed, cefais fyned i'r Eagles Inn i lanhau esgidiau, lle yr ydoedd telynor o'r enw William Ellis yn cael ei gadw at wasanaeth y tŷ; a byddwn inau yn ei brovocio trwy ei