Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a rhoddwyd fi drachefn i wylio Meddygdy (Hospital), bob yn ail a fy nghymdeithion. Un noswaith neillduol, cauwyd fi tu allan i ddorau y pyrth, a'r gelynion oddiamgylch hyd y maesydd yn saethu eu bwledau nes oeddynt i'w clywed yn gwibio oddeutu fy mhen. Pa fodd bynag, cefais fynedi mewn cyn cael unrhyw niwaid. Rhoddwyd fi ddiwrnod arall yn wyliedydd ar balas mawr oedd yn sefyll ar le peryglus. Pe daethai dau o'r gelynion at y lle, buasai yn rhaid i mi ymladd a'r ddau; ond pe daethai tri, caniateid i mi ddianc am fy mywyd. Dychrynais yn fawr unwaith, trwy i ni glywed trwst a saethu mewn coedwig oedd gerllaw, gau dybied mai y gelynion oedd yno; ond wrth iddynt ddynesu tuag ataf, gwelais mai Saison oeddynt, a bod un o honynt yn Gymro ac yn hen gyfaill i mi. Yn mhen ychydig funudau ar ol iddynt fy nghyraedd, daeth tri o'r gelynion tuag atom; saethodd tri neu bedwer o honom atynt, a charlamasant ymaith yn eu holau. Oni buasai i'r rhai hyn ddygwydd fod gyda mi, ne buasent yn sicr o fy lladd.

Yn fuan wedi hyn gorchfygwyd y Spaniards, a bu heddwch, ac ymadawodd y rhan fwyaf o'r fyddin, gan gyfeirio tuag adref i Loegr. Pan oeddwn i yn mnyned i'r llong oedd yn dyfod i Cape of Good Hope, syrthiodd fy ngwn i'r mor, trwy i mi ei ollwng rhwng fy mysedd wrth geisio gafael mewn rhaff. Dedfrydwyd fi i ddyoddef 300 o fflangellau, a thalu er am dano; ond ni weinyddwyd dim ond 50,— maddeuwyd y gweddill. Y mae fflangellu yn ddiachos fel hyn wedi darfod ymhlith y filwriaeth yn bresenol. Ar ol aros yn y Cape dros amryw fisoedd, aethom i Alikan Bay i wylio rhag i'r Ffraicod lanio yno. Yr oedd yno dŷ yn cael gwerthu diodydd meddwol