Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gorchymynodd ei throi i mewn i Bombay can gynted ag y gallesid; ac wrth ei hadgyweiro gwelsant ei bod fel y dywedais: a rhoddodd y Captain £l i mi am fy anturiaeth.

Y mae yn hawdd iawn gan gabdeiniaid roddi cant ac ychwaneg o'r gath naw gynffonog ar gefn troseddwyr, ond pan yr anturiai un ei fywyd yn nghanol y lle mwyaf arswydus am sharkes yn y byd, ie, ac i achub y llong a'r dwylaw , ni chaiff opd un £1. Pan y mae cyfraniadau o greulonder, ac haelfrydedd mòr anghyfartal nid rhyfedd i rinwedd fyned yn isel.

Pan oeddym yn aros fel hyn yn Bombay, cafodd pob un o honom £2 o'n cyflog i brynu dillad, ond yn lle gwneud hyny â hwy, aethum i bentref bach, ychydig o'r dref, i'w gwario am ddiodyd, ac am gael myned gyda merched duon; a lladratawyd rhan o honynt oddiarnaf. Cysgais allan un nos waith yn feddw ar y tywod, a phe buaswn yn aros ychydig funudau yn hwy heb ddeffro , buasai y llanw yn fy ngolchi ymaith i'r môr. Ac fel hyn, yn fy meddwdod, ymdroais hyd y dref yn hirach na'r amser goddefedig, sef, tri diwrnod: oblęgid nid oedd rhyddid i ddyeithriaid i aros ar y tir ddim mwy na thri diwrnod. Daeth Sergeant du oddiamgylch y pedwerydd dydd i edrych a oedd rhywun wedi aros ar ol heb fyned i'w llongau, a chafodd fi mewn tŷ tafarn, yn bur sal ac wedi gwario fy holl arian er y diwrnod cynt. Gofynodd beth oedd fy enw mewn Saesoneg pur ddrwg, dywedais inau mai Williams, yn nghyd ag enw y llong y perthynwn iddi. Rhoddodd wydraid o wirod i mi, gan ddymuno arnaf aros yno am ychydig o oriau, ac aeth ymaith. Daeth ataf yn ol cyn y nos a dau o filwyr