wedi cael cysegru yr unfed awr ar ddeg i'w Greawdwr, a'i fod yntau yn derbyn ei wasanaeth gwael. Y mae efe yn debyg yn bresenol o gael marw a'i ben ar obenydd ar ol ei anturiaethau gwylltion i gyd, ar for ac ar dir; a mwy na hyny, y mae efe yn debyg o gael Iesu yn gyfaill ac yn rhan iddo. Nid oes genym ni ddim ond barnu yn ol fel yr ydym yn canfod pethau. Yr ydym ni yn ei weled ef yn meddu cystal gobaith am y Nefoedd ag unrhyw bechadur arall, canys y mae ef yn rhodio yn ffyrdd rhinwedd, yn bresenol; a gobeithiwn y caiff ef gymorth i ddal ei ffordd ac i ychwanegu cryfder hyd y diwedd.
Yr ydym yn dra gwahanol yn ein golygiadau i'r rhai hyny a edrychant gyda dirmyg ac amheuaeth ar hen bechaduriaid fel Tomos Williams. Ni feddwn hawl i wneud hyny tra byddo dyn yn gyson â'i broffes. Nid oes gan unrhyw Eglwys megis y dywedodd un, ond cymeryd pob un yn dduwiol tra y caiff ef. Y mae yn gof genym glywed hanesyn am ryw hen flaenor, yr hwn oedd yn lled gyndyn i dderbyn aelod unwaith, er nad oedd ganddo ddim yn neillduol yn erbyn bywyd y cyfryw, ond fod rhywbeth ynddo heb gyfateb i'r mesur oedd ef yn arfer roi ar grefydd bersonol. Pwy a ddygwyddodd fyned i'r gyfeillach , pan oedd mater y dyn yn cael ei drin, ond y diweddar, Mr John Jones, Edeyrn, yr hwn yn ei ddull arferol a ofynodd a oedd gan rywun rywbeth yn erbyn i'r dyn gael ei dderbyn yn gyflawn aelod. Yr hen flaenor a gododd ar ei draed , ac a ddywedodd , yn bwysig iawn, ei fod ef yn ddigon boddlawn iddo gael ei dderbyn ar brawf. "Ar brawf, aiệ,” ebai, John Jones, onid ar brawf yr ydym i gyd ?" Y