Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

difyru ynfydion uwch ben yr haner' peint, ac am haner pint, y mae Tomos Williams yn gwneud ei oreu, yn ol ei fanteision, i ddychwelyd dynion oddiwrth eu ffyrdd drwg. Ac os ydyw yn myned ychydig dros y marc, rai gweithiau, yn ei sel wrth geisio gwneuthur daioni, maddeuir iddo. Wrth ystyried ei fod ef yn hen cyn dechreu cyfeillachu â phobl foesol, a chyn gweled y gwerth o fywyd sobr, nid ydyw yn rhyfedd ei glywed yn ergydio yn lled drwm ar y fasnach mewn diodydd meddwol; canys ni wyddai efe: hyd yn ddiweddar, beth oedd hyfrydwch bywyd dyn sobr; a chan ei fod ef yn meddwl nad oes fodd i neb sydd yn arfer ag yfed mewn cymedroldeb wybod hyny, nid ydyw yn rhyfedd ei fod rai prydiau yn tywallt ei felldithion i ffiol y meddwyn, ac yn dyweud fod y rhai a brofo y diodydd yn gyfranog o'i bechod. Os caiff fyw ychydig, daw yn fwy tyner ei farn eto . Y mae pob newyddian yn danllyd iawn yn mlyneddau cyntaf ei oes ddiwygiadol, ond ymae addysg a phrofiad yn ei gyfarwyddo yn ffordd dealldwriaeth nes y mae yn gallu goddef mewn cariad rai a wahaniaethant oddiwrtho ef mewn barn. Y mae y brodyr y Trefnyddion, yn Llanrwst, yn ymgeleddgar dros ben o'r hen bechadur hwn a fu mor bell ar gyfeiliorn; ac y mae y dirwestwyr, a'r Methodistiaid, drwy y wlad oll, yn gefnogol iawn iddo gyda'r gorchwyl sy ganddo. Y mae efe wedi cael byw i fyned i henaint teg, ac y mae golwg iach a glanwaith arno; ond y mae yn debyg iawn oni buasai y tro a gymerodd le ar ei fuchedd у buasai efe o ran ei gorff yn y bedd, er ys blyneddau, ac o ran ei enaid mewn gwlad o anobaith. Y fath gysur iddo yo ngwely angau fydd meddwl ei fod