Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pe cawsai Tomos Williams ei eni yn Ngwydir, yn lle Capelulo, a phe cawsai ei ddwyn i fynu mewn addysg a moesau, gwnaethai gystal gwr boneddig yn ol maint ei synwyr, ag un sydd yn gwisgo coronig. Y mae hyny i'w weled yn amlwg yn yr hyn a wnaed o'r dyn, wedi ei gael yn gorwedd yn eil waed, ar faes llygredigaeth a meddwdod. Y mae efe, drwy lwyr ymatal wedi dyfod yn deilwngo gael bod yn aelod o'r Gymdeithas ddynol, pryd yr oedd o'r blaen yn deilyngach o fod yn mysg anifeiliaid; ac y mae efe, hyderwn, drwy ei grefydd, wedi dyfod yn deilwng o gael ei restru yn gyd ddinasydd â'r Saint, ac yn un o deulo Duw. Na ddigaloned y duaf, ac na ddigaloned cenadon yr Efengyl yn wyneb caledwch y penaf o'u gwrandawyr, dyma 'Tomos Williams, yr hwn gynt a fu mor bell a neb tu yma i'r trueni oddiwrth grefydd, wedi ei wneud grefyddwr! Y mae hyn yn gymaint syndod a phe codid un oddiwrth y meirw . Dyn oedd yn bla y tafarndai, yn gas gan bob wyneb ei weled yn dyfod i'w tai, oblegid ei haerllugrwydd a'i aflendid, wedi sobri; ac nid yn unig hyny, ond wedi dychwelyd at grefydd! Ac wedi dysgu darllen y Bibl ar ol dyfod at grefydd! Gellir ei weled, yn bresenol, yn lle cael ei herywdio fel esgymunbeth dros drothwy tafarndai, ar ol gwario y cwbl, yn myned i'r addoldy; yn lle bod yn gwylio, a'i "safn yn golsyn" ar y Sul , am drws cyntaf a agoro ar ol y gwasanaeth, yn myned a'i Fibi mawr o dan ei gesail i'r Ysgol Sabbathol. Yn lle dyfeisio castiau a chelwyddau i gael arian i gael diod, gellir ei weled yn myned a'i gist fechan o lyfrau ar ei gefn, o le i le, i daenu gwybodaeth fuddiol yn mysg ei gydwladwyr. Yn lle bod yn