Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arno ofn pob peth y pryd hwnw; ac y mae yn edrych ar bob un dyeithr fel ei elyn. Ni chymerai lawer am ddyweud "Na wnaf," wrth estron; ond bydd cynefindra, hyd yn oed mewn lle estronol , yn gwisgo yr arswyd ymaith; yn enwedig os bydd yr estroniaid yn caniatau i blant wneuthur yn rhy hyf arnynt. Cynefindra y plentyn â bygythian diystyr y fam sydd yn ei wneuthur o'r diwedd yn ddigon hyf i wrthwynebu ei hewyllys ac i'w herio un feiddgar. Ie, â rhai mor bell nes ymosod ar eu rhieni fel bwystfilod. Pe ceid sylw rhieni at y perygl o fagu plant yn ddiofn, ac yn ddiddysg ceid wyneb arall ar y wlad yn fuan iawn, Peth hawdd fyddai i bob tad a mam ddiwygio gartref pan y mae y cylch yn fychan; ac mewn gwirionedd dyma y man lle y dylai diwygiad gychwyn; pa reswm sydd i ddynion fagu plant, gan ddysgwyl i estroniaid wella eu moesau? Onid dyledswydd arbenig y rhieni ydyw hyny? Nid oes ganddynt fwy o hawl i ollwng eu plant allan yn wylltion ac yn ddiaddysg, nag sy ganddynt i ollwng haid o feiddiaid yn rhydd mewn cymydogaeth. Paham y rhaid i estroniaid perffaith oddef anghyfleusdra a gofid oddiwrth blant na pherthynant iddynt ? Pe meddylid am yr annbriodoldeb o hyn, ni fyddai dim gwrthwyneb gan unrhyw rieni i roi addysg i'w plant. Y mae rhyw dyb yn y byd fod gwahaniaeth rhwng plant pobl fawr a phlant pobl fach yn wreiddiol. Ond ni fu erioed gyfeiliornad mwy na hwn, canys "efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion." Y mae yr holl wahaniaeth yn y dygiad i fyn a gant, ac yn y gwisgoedd a wisgant. Y mae un yn cael ei fagu yn foethus ac yn gostus; ac y mae y llall yn cael ei fagu yn galed ac yn dlawd.