Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bryd, lle y carai y gwragedd ymddigrifo yn nghwmni eu hiliogaeth a ant allan o olwg—a beidiant a bod! Y mae'r gaethfasnach yn bechod o'r math duaf a dyfnaf, a dyledswydd cenedloedd gwareiddiedig Ewrop ac America—bugeiliaid y byd—ydyw estyn eu nhodded a'u hamddiffyn dros genedloedd gweiniaid a gorthrymedig Affrica. Y pryd hwnw, ac nid cyn hyny, y cwblheir geiriau prophwydol Livingstone— "Daw pobpeth yn iawn yn y diwedd."

Cwsg, gan hyny, O Livingstone, yn dy wely difreuddwyd, hyd nes y gwawria yr amser hyfryd hwnw! Cwsg yn mlaen, mewn heddwch bythol oddiwrth flinderau a thrafferthion y byd! Cariad a chyfeillgarwch a daflant eu llawryfon ar dy goffadwriaeth i'w gadw yn wyrdd, a chalonau meibion a merched daionus a'th fendithiant di am y gwaith gogoneddus a gyflawnaist mor ragorol.