Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flyneddau. Dealla y darllenydd fod y coluddion a'r oll o'r rhanau mewnol wedi eu claddu yn y lle y bu y teithiwr enwog farw, yr hyn oedd anghenrheidiol mewn trefni ddiogelu rhanau ereill y corff. Ond er fod calon dyner a ffyddlon Livingstone wedi rhoddi y curiad olaf, y mae ei lais ef yn parhau i adsain yn nglustiau Ewrop ac America. Clywir ei lais yn awr yn gliriach ac.yn uwch na phan oedd efe fyw-na phan yr erfyniai am gynnorthwy i dori y gefynau a wrth-hoeliwyd ar genedloedd duon Affrica gan gaethfasnach felldigedig. Tra yr oedd ef yn fyw, nis gallasai ond murmur yn ei unigedd—"Disgyned bendithion y nefoedd ar bob un, Americaniad, Prydeiniwr, a Thwrc, a gynnorthwyo i iachau clwyf agored y byd!" Ond o ddyfnder y bedd lle gorwedd ei weddillion, llefa ei ysbryd yn ddiarbed —"Chwychwi Americaniaid, Saeson a Thyrcod, cyfodwch ac attaliwch y gaethfasnach, —YN HEDDYCHOL OS GELLWCH—GYDA NERTH GORFODAETH, OS YN ANGHENRHEIDIOL!"

Y mae'r dyngarwr trancedig wedi testamentu i ni etifeddiaeth deg o ddygasedd at yr anfadrwydd arswydus sydd yn anrheithio Cyfandir Affrica. I ba le bynag y teithia y gaethfasnach, hi a edy ar ei hol lynau o ddagrau a gwaed gwirion, pentrefydd llosgedig, meusydd deifiedig, a gwledydd anghyfanedd. Rhagflaenir hi gan ofn, braw 'a digofaint! Y mae hi yn wregysedig o'i hamgylch gan y dinystr duaf! Y mae ei dylanwadau drygionus mor gildyn ac angau! Dros y tiroedd a fuont gynt yn ddiwylliedig, lle y preswyliai dedwyddwch syml ac y blagurai boddlonrwydd digymysg—lle y gwelid pentrefydd prydferth yn cael eu cysgodi gan yr olewyd a'r palmwydd—dros randiroedd teg felly yr ymdaena y goedwig anhygyrch; ar broydd lle gynt y chwareuai ac y pranciai plant siriol,