Yr oedd y gynnulleidfa fawr, prudd-nodau y beroriaeth leddf, helaethrwydd y galar-leni a pha rai y gwisgasid parthau mewnol y Fynachlog, ac amledd y galarwisgoedd dynol, oll yn cynyrchu yr effaith fwyaf trydanol; ond y mae'n amheas a oedd y seremoni fawreddog hon yn fwy difrifol na'r un a gymerasai le ar y 4ydd dydd o Fai, 1873, o dan y goeden gerllaw pentref Chitimbwa, neu Kitumbo, yn Nghanolbarth Affrica, lle y gweinyddodd yr ieuanc Jacob Wainwright fel gweinidog Cristionogol ar yr achlysur o ddodiad calon ardderchog Livingstone i orphwys yn naear y wlad dros ba un y cyflawnodd efe y fath hunanaberth.
Gwedi y gwasanaeth arferol, dadorchuddiwyd yr arch, a huliwyd ei chauad gan gyfeillion a pherthynasau anwyl â phwysiau a blodau, ac
yn nghanol yr arddangosiadau mwyaf o anrhydedd a galar diffuant, gollyngwyd corff blinderus David Livingstone i lawr i'w orphwysfa derfynol. Gyda thywysogion y bobl y'i claddwyd; a daeth pob dosbarth o Brydeinwyr, o gynnrychiolwyr swyddogol Llys Victoria i waered hyd y rhai tlotaf o'i deiliaid, i gydalaru wrth fedd Apostol Affrica. Wele yfysgrif o'r argraff oedd ar ei arch:
DAVID LIVINGSTONE,
A ANWYD YN MLANTYRE, SWYDD LANARK, YSGOTLAND,
Mawrth 19eg, 1813.
AC A FU FARW.YN ILALA, CANOLBARTH AFFICA,
Mai 4ydd, 1873.
Y mae rhywbeth nodedig o darawiadol yn y syniad fod corff Livingstone wedi ei ddwyn i'w gladdu yn Mynachlog enwogion Prydain, tra y mae ei galon wedi ei chladdu yn Affrica—yn naear y wlad dros ba un y curodd y galon họno mor gynhes am gynifer o