Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddiau oedd y rhai a gludasid gyda'r fath ffyddlondeb trwy gynifer o anhawsderau dros gyfandir Affrica o Ilala i Zanzibar gan y bachgen du Jacob Wainwright, ac felly diddymwyd am byth bob amheuaeth o berthynas i farwolaeth y Cenadwr dihafal.

Ar ddydd Sadwrn, Ebrill 18fed, 1874, yn nghanol arddangosiadau o brudd-der anarferol, cludwyd corff y teithiwr enwog i'w orweddfa derfynol yn Mynachlog Westminster. Bu yr amgylchiad difrifol hwn yn achlysur cydgasgliad tyrfaoedd na welir eu cyffelyb mewn nifer a dylanwad ond tra anfynych, ac yn mhlith y lluaws gwelid amryw o gymdeithion boreu oes Livingstone, yn nghyda rhai a gydgyfranogasent ag ef yn ei lwyddiant a'i ddyoddefiadau yn ngwyllt-diroedd Canolbarth Affrica. Y rhai olaf hyn a wasanaethent fel elorgludwyr Yma yr oedd y llewod-helwyr, Syr Thomas Steele, Mr. W. C. Oswell, a W. F. Webb; Kirk, y llysieuydd yn ymgyrch y Zambesi; Walter, yr hwn a gynnorthwyasai Livingstone yn ei genadaeth ddyngarol i'r Shire Uchaf; Young, magnelydd y Pioneer a llywydd y fintai ymchwiliadol gyntaf a anfonwyd i Lyn Nyassa; awdwr y buchdraith yma, yr hwn a ddarganfyddodd Livingstone yn Ujiji; a Jacob Wainwright ieuanc, cynnrychiolydd y ffyddloniaid duon a anfonasom at Livingstone o Zanzibar.

Fel prif alarwyr yn dilyn yr arch tra y'i cludid gyda mawrygedd parchedig i fyny yr eglwysrawd odidog yr oedd plant y Cenadwr, sef Thos. Steele, Agnes, William Oswell, a Ann Mary Livingstone; dwy chwaer alarus y trancedig; Mrs. Livingstone, gwraig Charles Livingstone, a'r patriarch barswyn Robert Moffat, yr hwn a roddasai iddo ei ferch Mary yn wraig yn mhellafoedd Kuruman; ac yn nesaf at y rhai hyn, deuai Duc Sutherland, Arglwydd Ddadleuydd yr Ysgotland; Iarll Shaftesbury, Arglwydd Houghton, Syr Bartle Frere, Dr. Lyon Playfair, Syr H. Rawlinson, Arglwydd Laurence, Syr F. Buxton, yr Anrhydeddus Arthur Kinnaird, a gorymdaith faith o ddoethion ac enwogion Prydain Fawr.