Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyflawni y fath wasanaeth i ddynion truenus Affrica. Gyda pharch diffuant, ac ymroddiad teilwng o'r arwr Cristionogol y cawsent yr anrhydedd o'i wasanaethu, ei ganlynwyr a benderfynasant gludo corff Livingstone dros gyfandir anferth a dissaeth o un cant ar bymtheg o filldiroedd i Zanzibar, modd y gellid ei anfon i Loegr i'w gladdu. Y mae ffyddlondeb diwyrni a gwroldeb didroi yn ol y bachgen du Jacob' Wainwright, yr hwn oedd arweinydd y cwmni a ddygodd gorff y Cenadwr trwy gynnifer o anhawsderau i Zanzibar, wedi ei ddesgrifio yn ehelaeth eisoes yn y newyddiaduron. Nis gall Prydain roddi gormod o anrhydedd i'r Negro ardderchog hwn.

Pan gyrhaeddodd yr agerlong "Malwa," yr hon a gludodd y corff o Zanzibar, i Southampton, glaniwyd yr arch ar y Morfur Breninol; oddiyno cludwyd gweddillion cysegredig y Cenadwr mawr i'r Neuadd Drefol, trwy ganol tyrfą aruthrol luosog o edmygwyr a ymgasglasent i eneinio a'u dagrau rodfa llwch gŵr Duw. Yr oedd y dystawrwydd llethol a lanwai rengau trwchus yr orymdaith yn nodedig o effeithiol a tharawiadol, ac yn rhoddi mynegiad cryfach nag a allasai unnhyw eiriau gyfleu i'r mawrygedd parchedig gyda pha un yr anwylid Apostol hunan-aberthedig Affrica gan drigolion gwlad ei enedigaeth. Yr oedd agwedd gwyneb pob galarwr yn profi dyfnder a chyffredinolrwydd y teimlad fod i lafur bywyd David Livingstone wedi enill anrhydedd aniflanedig i'r enw Prydeiniwr. O Southampton, dygwyd y corph i Lundain, yn ngofal llywydd ac aelodau Cymdeithas Freninol y Daearyddwyr. Yn y Brif Ddinas, agorwyd yr arch, ac archwiliwyd y gweddillion yn ffurfiol gan Syr William Fergusson. Gan ei fod wedi marw er ys cyhyd o amser, ac wedi cael ei gludo dros gynifer o filoedd o filldiroedd; yr oedd y corff wedi dadfeilio i'r fath raddau fel nas gallesid ei adnabod, oni bai y toriad a wneuthid yn asgwrn y fraich chwith gan y llew a ymosodasai ar y teithiwr agoș i ddeng mlynedd ar hugain yn ol. Yr oedd asiad anghelfydd yr asgwnn yn galluogi Syr W. Fergusson, Dr. Moffat, ac ereill i sicrhau ar unwaith mai gweddillion Livingstone yn