Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr adeg hon, y mae y genedl Seisnig i ddiolch am feddiant o'r gweddillion a gladdwyd yn ddiweddar gyda'r fath seremoni ddifrifol yn Mynachlog Westminster.

Y mae sylwedd neu grynodeb:o hanes ei deithiau o'r; Nyassa i Ujiji, fel yr adroddodd Livingstone ei hun am danynt wrth yr awdwr, eisoes wedi ymddangos yn y llyfr, "Sut y Darganfyddais Livingstone," ond gellir eto eu byr-nodi yma. Wrth deithio i'r gorllewin o'r Nyassa, a chwedi croesi yr ucheldir sydd ar lan y Llyn, daeth Livingstone i wastadedd o dir diwylliedig, yn cael ei amaethu yn dda. Efe a groesodd ar draws Dyffryn Loangwa i wlad Babisa, a theithiodd trwy Baulomgu a Bemba i diriogaeth Cazembe. Darganfyddodd diriogaeth eang, y rhai ni welsid erioed yn flaenorol gan lygaid Ewropeaid, ac aeth i blith cenedloedd, y rhai ni welsent erioed wyneb dyn gwyn yn flaenorol. Canfu yr afon fawr Chambesi a'i changenau lluosog, yr hon a ymarllwys i Lyn Bangweleo, ac a red oddiyno drachefn i Lyn Moero. Cafodd mai yr unrhyw afon oedd yn rhedeg beunydd trwy nifer mawr o wahanol lynoedd aruthr eu mhaint, ac y gelwid hi mewn rhai manau yn Luapula, ac mewn parthau ereill yn Lualaba, a chrediniaeth ddiysgog Livingstone oedd fod hon yn un âg afon enwog yr Aipht. Ymwthiodd yn mlaen hyd Lyn Bangweleo, gan ymdrechu cyrhaedd Ffynnonydd Kataiga, lle y dysgwyliai allu gwneyd darganfyddiadau pwysig; ond wedi treiddio trwy wledydd anwar ag y mae eu henwau yn lleng, croesi afonydd a llynau mawrion, a llwybro dros gorsydd tonenog, gwlybion, ac afiach, gwanychodd ei iechyd a dadfeilodd cadernid rhyfeddol ei gorff yn ngwanwyn 1873; ac yn niwedd Ebrill gorfu iddo roddi i fyny y meddylddrych o ddychwelyd i Frydain i farw, a dywedodd wrth ei ganlynwyr ffyddlon—"Gwnewch i mi fwth fel byddwyf marw ynddo; yr wyf yn myned adref."? Dyna eiriau olaf yr ardderchocaf. o genadon Crist yn y bedwaredd ganrif a'r bymtheng. Ar y 4ydd dydd o Fai, 1873, o Ilala, Canolbarth Affrica, ehedodd ei enaid at y Duw mawr a roddasai i David Livingstone, y bachgen gwehydd o Flantyre, nerth i