Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyfeiriad' de-orllewinol am Lyn Tanganyika. Parhaodd у daith i'r llyn am 54ain o ddyddiau. Ar y 236 dydd wedi ei chychwyniad oddi wrth y morlan, cyrhaeddodd y fintai Americanaidd Ujiji, pan yno, yn rhagluniaethol, canfyddwyd y Dr Livingstone, yr hwn oedd newydd ddychwel o wlad a elwid Manymema, oddeutu 700 o filldiroedd i'r gorllewin o Lyn Tanganyika.

Yr oedd y teithiwr enwog wedi ei ddarostwng i fod yn nemawr amgen na chysgod o'r hyn a fuasai, oherwydd mynych salwch, lludded, tlodi, ac unigedd. Oddigerth pedwar, yr oedd yr oll o'i weision naill ai wedi marw neu ynte wedi ei adael, ac ymddangosai nad oedd iddo unrhyw obaith yn aros. Yr oedd ei apeliadau torcalonus am gynnorthwy naill ai wedi cael eu hesgeuluso gan ei gyfeillion yn Zanzibar, neu ynte yr oedd ei lythyrau wedi myned ar goll. Yn y cyflwr anffodus hwn, credai yn sicr nad oedd yn ei ddysgwyl ddim amgen na marwolaeth ddirboenns trwy nychdod ac adfyd. Modd bynag, o dan ddylanwad calonogol ymborth da a chysuron amheuthyn, ac hefyd, o bosibl, trwy gynnorthwy cydgymdeithasiad ag un o'i gydgenedl, 'efe a wellhaodd yn fuan, ac yn mhen chwech neu saith niwrnod, teimlai yn alluog i fyned gyda chyfran o'r fintai Americanaidd mewn cwch i ogleddbarth Llyn Tanganyika, lle y canfu Livingstone a'r awdwr afon yn rhedeg i'r llyn, yr hon nis gallai gael mynedfa allanol mewn un modd trwy yr erchwynion mynyddig anferth a amgylchent yr oll o haner gogleddol y Tanganyika. Gwedi gwneyd taith o fwy na 750 o filltiroedd, a chydfyw am dros bedwar mis, ymwahanodd Livingstone a'r fíntai Americanaidd am byth yn Unyanyembe ar y 14eg o Fawrth, 1872.

Ymgymerodd yr awdwr âg anfon i Livingstone gyflenwad o wahanol angenrheidiau, yn nghyda haner cant o ddynion rhyddion o Zanzibar, y rhai a anfonwyd o dan ofal arweinwyr ffyddlon. Hwy a gyrhaeddasant oll yn ddiogel i Unyanyembe yn niwedd Gorphenaf, 1872. I'r dynion a ddewiswyd ac a anfonwyd o Zanzibar