Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Modd bynag, yn 1868, derbyniwyd llythyrau oddiwrth Livingstone ei hun, dyddiedig o Bemba, Chwefror, 1867, yn mha rai yr eglurai iddo fod yn analluog i anfon dim o'i hanes yn gynt oherwydd diffyg cymundeb rhwng y: parthau dyeithr a deithid ganddo â'r glanau. Ar y 3)ain o Fai, 1869, ysgrifenodd Livingstone drydydd llythyr o Ujiji , yr hwn a gynnwysai y newyddion diweddaf a dderbyniwyd oddiwrtho hyd Orphenaf, 1872.

Ond er i'r llythyrau a nodwyd ddyfod oddiwrtho, parhaodd sibrwd poenus i ymledu yn ei gylch. Credid braidd yn gyffredinol ei fod wedi marw trwy ryw achos neu gilydd wedi ei ladd, marw o newyn, haint, neu ddamwain; ac yr oedd nifer y credinwyr yn ei farwolaeth yn lluosogi yn ddyddiol trwy yr holl fyd gwareiddiedig. Hysbysodd Syr Roderig Murchison nâ fwriadai y Gymdeithas Ddaearyddol anfon allan fintai ychwiliadol arall, ac ar hyny penderfynodd perchenog y New York Herald,' anfon un o'i ohebwyr neillduol i chwilio am y teithiwr colledig. Bu ysgrifenydd yr hanes yma ffodused a chael ei ddewis i'r gorchwyl. Yr oedd yr awdwr ar y pryd yn Madrid, yn ysgrifenu gohebiaethau ar y rhyfeloedd Hispaenaidd. Oddiyno, efe a aeth i Baris i gyfarfod perchenog yr Herald, ac yr oedd y cyfarwyddiadau a dderbyniodd yn gynnwysedig yn y gorchymyn byr:—"Canfyddwch a chynnorthwywch Livingstone.

Cyrhaeddodd ymgyrch ymchwiliadol y papyr Americanaidd i Zanzibar ar y 6ed o Ionawr, 1871. Gan fod hanes yr ymchwiliad yn perthyn yn gwbl i'r llyfr"Sut y Darganfyddais Livingstone," ni wnawn ychwaneg yma na chludo y darllenydd gyflymed y gellir dros y tir a deithiwyd gan yr ail fintai ymchwiliadol. Cyrhaeddodd y fintai i Unyanyembe yn Mehefin, 1871. Yma cyfarfyddwyd â rhwystrau ac attalfeydd anorfod oherwydd y rhyfeloedd a gerid yn mlaen rhwng gwahanol lwythau y wlad. Felly, bu raid aros yn Unyanyembe am dri mis, yn ystod pa amser y gwnaeth marwolaeth ac enciliad gryn leihad yn nifer y fintai. Gwedi adgyfnerthu y: fintai trwy gyflogi nifer o frodorion, cychwynwyd i