Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

boenus hon i Zanzibar gan ddyn o'r enw Musa, o Johanna. Crynodeb o'r chwedl hon oedd i'r perwyl fod Livingstone, ar ol gadael glan ddeheuol y Rovuma, wedi diswyddo y Sepwys a ddaethent gydag. ef o Fombay, gan eu gadael i ddychwel hyd y ffordd i Zanzibar. Yr oedd y Sepwys, meddid, wedi cael eu cymeryd yn glaf o un i un; a chwedi i'r fintai groesi Llyn Nyassa, a dechreu eu taith orllewinol, adroddid fod cwmni o'r Alaztu wedi ymosod arnynt yn sydyn, gan ladd Livingstone gyda tharawiad bwyeli ryfel, a gwasgaru ei ganlynwyr. O'r llanerch farwol a ddesgrifiai fel yn sefyll rhwng Marenga a Mukliosawa, dywedai Musa ei fod ef wedi dianc gydag ychydig ereill o'r fintai anffodus.

Gwedi cryn lawer o ystyriaeth, erfyniodd Syr Roderig Murchison a'r Gymdeithas Ddaearyddol ar y Llywodraeth anfon allan fintai, gyda chwch cyfaddas, i Lyn Nyassa i brofi gwirionedd yr adroddiad, gan fod Syr Roderig ac ereill , oherwydd rhesymau pwysig, yn amheu dilysrwydd chwedl y dyn Musa.

Ymddiriedwyd gofal yr ymgyrch archwiliadol yma i Mr. E. D. Young, swyddog o'r Llynges, a'r Is-gapten Faulkener, o'r fyddin, y rhai a gychwynasant o Frydain am y Zambesi ar yr 11eg o Fehefin. Gwedi cyrhaedd yr afon fawr, gosodwyd y cwch dur a ddygasid o Loegr yn ddarnau, wrth eu gilydd, a chychwynodd y fintai gyntaf a aeth i ymchwil am Livingstone i gyfeiriad yr Afon Shire. Islaw Rhaiadrau Murchison tynwyd y cwch oddiwrth ei gilydd drachefn, a chludwyd ei ranau dros y tir am ddeugain milldir, a dodwyd ef drachefn i nofio dyfroedd tawel y Shire Uchaf. Cafodd Mr. Young brofion sicr na lofruddiasid Livingstone yn unman cyfagos i'r lle a nodasid gan Musa fel man y gyflafan. Y brodorion oddiamgylch ogylch a dystient yn ddifrifol ei fod wedi myned yn mlaen i'r gorllewin mewn iechyd a chyflwr da. Cafwyd profion fod y Johanniaid wedi gadael Livingstone, a dyfeisio y chwedl am ei lofruddiad mewn trefn i geisio cael eu cyflogau gan Ddirprwywyr y Llywodraeth.