Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn yr ysgol a nodwyd. Yn ychwanegol at hyn prynodd. y teithiwr amryw fulod Indiaidd ac ychydig gamelod, a chyn iddo ymadael o'u plith, efe a dderbyniodd danysgrifiad sylweddol gan bobl ryddgalon Bombay er ei alluogi i gario yn mlaen archwiliadau daearyddol. Gwedi gorphen ei ddarpariadau, a dodi y Sepwys a roddasid at ei wasanaeth, yn nghyda'i ychain a'i gamelod ar fwrdd llong, efe a hwyliodd o Fombay i Zanzibar.

Yn Zanzibar efe a breswyliai gyda'r Dirprwywr Prydeinig, sef y Dr G. E. Steward, gan yr hwn y derbyniodd bob sylw a chynnorthwy i gwblhau rhagdrefniadau yr ymgyrch.

Ar y 19eg o Ebrill, hwyliodd Livingstone o Zanzibar i Mirkindary Bay, ugain milldir i'r gogledd o'r Afon Rovuma, ac oddeutu pum' gradd i'r de o Ynys Zanzibar. Yr oedd y fintai yn gynnwysedig o'r Dr. Livingstone ei hun, deg o ddynion o Johanna, y rhai a gyflogasid gan Mr. Sunley, y Dirprwywr Prydeinig, tri ar ddeg o ddynion o'r Zambesi, y rhai a adawsid ganddo yn flaenorol yn Zanzibar pan yr oedd efe ar ei daith gartref, a deuddeg o Sepwys brodorol o Fombay—yr oll yn 36 o eneidiau. Yr anifeiliaid a gymerodd i'w ganlyn oeddynt chwech o gamelod, pedwar o fualod, pedwar o asynod, a dau ful. Penderfynasant wneyd prawf ar gymhwysder y rhai olaf hyn i deithio yn Affrica. Ar yr 28ain o Fawrth, glaniodd y llong ryfel Brydeinig "Penquin" y fintai yn Arfor Mikindary. Yn mhen ychydig ddyddiau drachefn, cychwynodd Livingstone, gyda'i gwmni, am y canolbarth, gan gymeryd cyfeiriad de-orllewinol, gyda'r amcan o groesi y Rovuma a chyrhaedd gogleddbwynt Llyn Nyassa. Derbyniwyd ychydig lythyrau oddiwrtho gan gyfeillion, yn mha rai y desgrifiai lwyddiant ei daith. Gwedi hyny daeth cyfnod maith o ddystawrwydd, yr hwn a dorwyd yn Rhagfyr, 1866, gan y newydd trwm ei fod wedi cael ei lofruddio gan gwmni o'r Mazitu a breswylient y tiroedd anhysbys trwy ba rai y rhedai cangenau gorllewinol y Royuma. Dygwyd y chwedl