Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y gaethfasnach warthus y gwyddid ei bod yn cael ei chario yn mlaen yn Nghanolbarth Affrica er dirfawr ddinystr i fywyd dynol. Iarll Russell, yr hwn a bennododd Livingstone yn Ddirprwywr, a addawodd dalu iddo bum' cant o bunnau y flwyddyn os y byddai iddo breswylio gyda rhyw benaeth dylanwadol, ond os y byddai iddo ddilyn ymchwiliadau daearyddol, yr oedd yn ddealledig na roddid iddo gyflog.

Er anrhydedd i larll Russell, dylid crybwyll hefyd ei fod wedi ystyried gwasanaeth Livingstone ar y Zambesi o'r fath bwysigrwydd i'r Llywodraeth Brydeinig, fel yr anfonodd efe genad pwysig at y teithiwr i ymholi maint a nodwedd y wobr a garai dderbyn. Yn ddiystyr ohono ei hun, ac, ar y pryd hwnw hefyd yn ddiystyr o les ei deulu ieuainc, y dyngarwr calongaredig ac anhunanol a ddywedodd : "Nid oes arnaf eisieu dim fy hun, ond os yr attaliwch y Gaethfasnach Bortuguaidd, chwi a barwch i mi foddhad a llawenydd anrhaethadwy."

Anaml y ceir esiamplau o'r fath hunanymwadiad; ac y mae sylwi ar nerth y nodwedd yma yn nghymeriad Livingstone yn cadarnhau argyhoeddiad yr awdwr y dylai y Llywodraeth Brydeinig gydsynio âg ewyllys gyffredinol y genedl trwy gydnabod gwasanaeth mawr y dyn hwn mewn dull teilwng, sef darparu yn briodol ar gyfer ei deulu.

Ymadawodd Dr. Livingstone o Loegr am y waith olaf ar y 14eg o Awst, 1865, a hebryngwyd ef hyd yn Mharis gan ei ferch Agnes. Gan adael ei ferch yn mhrif ddinas y Ffrancod, aeth y teithiwr yn mlaen yn unigol i Bombay. Yn Mombay efe a enilloedd gyfeillgarwch Llywodraeth y Drefedigaeth, gan ba un y derbyniodd roddion gwerthfawr o arfau a phethau ereill anghenrheidiol i'w daith. O'r ysgol a gedwid yn Mombay gan y Parch. Mr. Price, sicrhaodd Livingstone wasanaeth Chumah, Wekotani, Edward Gardener, Simon Price, a chaethion ereill a ddygasid gan: y trafnidydd o gymydogaeth y Zambesi, ond y rhai a ryddhasid o'u caethiwed, ac a osodasid o dan addysg