Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

trwy adalwad sydyn ymgyrch y Zambesi gan y Llywodraeth Brydeinig wedi ei wneyd yn bryderus yn nghylch dyfodol ei deulu, ac yn awyddus i ddarganfod rhyw foddion i adfer yr eiddo a aberthasid ganddo ar allor ei ddyngarwch; ond ymlidiai Syr Roderig Murchison bob ystyriaethau fel hyn o'i feddwl trwy orchymyn iddo nad ofnai am y dyfodol, "gan y gofalai efe am hyny oll." Pe buasai y daionus Syr Roderig yn fyw, a phe dychwelasai ei gyfaill yn ddiogel o Affrica, diau y buasai ei ddyfodol yn ddigon clir, a blynyddoedd ei benllwydni yn gyflawn o ddyddanwch. Ond y mae Syr Roderig Murchison a'r Dr. Livingstone wedi ymadael i wlad bell tuhwnt i bob pryder a rhagolygon daearol, ac y mae plant y Cenadwr a'r teithiwr mawr wedi eu gadael yn amddifaid o ofal darbodus eu hanwyl dad.

Y Prydeinwyr yn gyffredinol a addefant fod eu gwlad wedi cael ei hanrhydeddu trwy lafur dyngarol a daearyddol Livingstone, cenedloedd tramoraidd a'i cydnabyddant fel yr archwiliwr a'r darganfyddwr mwyaf mewn amser diweddar. Y mae gwasg Ewrop ac America yn cyd-dystiolaethu fod ei ymdrechion ar ran caethion Affrica yn ei osod ar gyfartaledd â Wilberforce fel eu hamddiffynydd a'u pencampwr; a diau y bydd canlyniad terfynol ei ymdrechion yntau ar eu rhan yn gyffelyb i ganlyniad ymdrechion Wilberforce dros drueiniaid y Glanau Gorllewinol.

Cawn hanes teithiau Livingstone gyda'r fintai archwiliadol ar y Zambesi yn ei lyfr a elwir "Y Zambesi a'i Changenau,"—Ilyfr a ysgrifenwyd ganddo yn Newstead Abbey, preswylfod ei gyfaill W. F. Webb, ysw. Gwedi gorphen ysgrifenu y llyfr hwnw, Livingstone hefyd a ddechreuodd barotoi ar gyfer ei daith olaf a mwyaf. Tuag at draul y siwrnai anturiaethus hon, tanysgrifiodd Mr. James Young, o Kelly, fil o bunnau; rhoddodd y Llywodraeth bum' cant, a'r Gymdeithas Ddaearyddol Freninol bum' cant. Pennododd y Llywodraeth ef yn Ddirprwywr at y Penaethiaid yn Nghanolbarth Affrica, gynnrychioli Prydain a'i buddiannau, ac i ddarganfod