Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

allan o'i foddion personol, ac i'r unig ddyben o hyrwyddo yr amcan y dirprwyasid ef gan y Llywodraeth Brydeinig i arolygu ei gyflawniad—pan oedd efe ar fedr myned a'i agerlong i fyny i Lyn Nyassa, cyrhaeddodd cenadwri oddiwrth Iarll Russell yn ei gyfarwyddo i ddychwel i Frydain. Mewn ufudd-dod i'r cyfarwyddiadau yn y genadwri a nodwyd, dychwelodd Livingstone i enau y Zambesi, ac oddiyno i Zanzibar; ac oddiyno drachefn, gan lywyddu mordwyad y llong ei hun, efe a hwyliodd i Bombay, pellder o ddwy fil a haner o filldiroedd. Gwerthodd y "Lady Nyassa" yn Bombay am ddwy fil o bunnau, a dododd y swm hwnw yn nwylaw arianydd. Yn fuan gwedi hyn, fel megis i gwblhau y prawf chwerw o dan ba un y darostyngwyd ysbryd y dyn dewr hwn yn ystod y cyfnod rhwng 1858 ac 1864, daeth arianydd Bombay yn fethdalwr, a chollodd Livingstone yr oll o'r ddwy fil punnau.

PENNOD V

YR ARCHWILIWR DAEARYDDOL, Y CYFAILL, A'R ARWR.

Gan fod y gofod sydd ar gyfer y bennod hon yn dra chyfyngedig, rhaid i ni o angenrheidrwydd fod yn fyr gyda'n hadroddiad am ei daith olaf i ganolbarth Affrica.

Darfu yr adroddiadau a ddygasai Dr. Livingstone gydag ef i Frydain yn nghylch y tiriogaethau ar y gorllewin i Lyn Nyassa, enyn dyddordeb Syr Roderig Murchison, Llywydd y Gymdeithas Ddaearyddol Freninol, i'r fath raddau, fel y taer erfyniodd y daeryddwr brwdfrydig hwnw ar Livingstone ymgymeryd â'r gwaith o archwilio y wlad a orweddai rhwng Nyassa Ogleddol a'r Tagannyika Ddeheuol. Yr oedd Livingstone weithian yn y 53ain flwydd o'i oedran; ond gwedi ystyried pobpeth yn ddyfal, efe a gydsyniodd i gychwyn i'r drydedd o'i deithiau archwiliadol hynod ac anturiaethus.

Yr oedd y golled o chwe' mil o bunanu a gawsai efe