Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o adfeiliedig, fel mai gydag anhawsdra dirfawr y gallai y llong weithio ei ffordd yn arafaidd yn erbyn llif ymchwyddol y Zambesi pan ddefnyddiwyd hi i gludo rhanau o'r llong newydd—Lady Nyassa—i fyny yr afon hono. Y Capten Wilson, o'r Gorgon, ac efe yn gweled awydd y boneddigesau perthynol i'r genadaeth am gyrhaedd i ben eu siwrnai, a fu garediced a chynnyg eu cludo i fyny yr afon yn nghwch y llong ryfel. Gwedi cyrhaedd ohono ef a'r boneddigesau hyd yn Chibisa ar y Shire, hwy a glybuasant gan y Makololo fod yr esgob daionus Mackensi a Mr Burns, un o'r cenadon, wedi marw; a'r ddwy foneddiges drallodus a ddychwelasant at enau y Zambesi yn galonddrylliog. Yn fuan ar ol hyn, oherwydd camgymeriad dinystriol a gyflawnwyd gan y cenadon, trwy ymadael o'r uchel-diroedd ac ymsefydlų yn rhandir afiach y Shire Isaf, bu farw dau yn ychwaneg o'u nhifer, sef y Parch. Mr. Dickinson a'r Parch, Mr, Scudamore.

Ar y 27ain o Ebrill, 1862, bu farw Mrs Livingstone, priod ddewr y dyngarwr a'r archwiliwr David Livingstone. Terfynwyd ei bywyd gwerthfawr hithau gan effeithiau dinystriol yr hinsawdd yn Shupanga, ar yr afon Shire; ac yno y claddwyd hi. Darllenwyd y gwasanaeth angladdol uwch y bedd gan y Parchedig James Stuart, o Eglwys Rydd Ysgotland.

Gwedi y cyfnod trychinebus hwn aeth Livingstone i archwilio y Ravuna, i'r hon y cansyddodd efe ddwy gangen bwysig yn ymarllwys, un o'r de-orllewin, gan darddu o Fynydd Nyassa, a'r llall o'r gorllewin-ogledd-orllewin. Ar ei ddychweliad o'r ymgyrch yma, efe a aeth yn mlaen gyda'i archwiliadau ar y Zambesi a'r Shire. Ar y 19eg o Fai, 1863, y Parch. Charles Livingstone a'r Dr. John Kirk, wedi dyoddef llawer oddiwrth effeithiau gwenwynig yr hinsawdd, a ymadawsant oddiwrth Dr Livingstone i'r dyben o ddychwel gartref. Dau fis yn ddiweddarach, pan yr oedd yr archwiliwr diflin ar fedr defnyddio ei agerlong newydd "Lady Nyassa," am yr hon y talasai efe yn gyfan