Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

efe a anfonodd i Frydain i erchi gwneuthuriad agerlong na byddai yn ofynol cael mwy na thair troedfedd o ddwfr iddi nofio ynddo, a gorchymynodd i'w fancwyr dalu am dani allan o'i arian ef ei hun. Gwelai Livingstone, os gellid unwaith gael y fath long i nofio ar Lyn Nyassa, y ceid mioddion sicr ac effeithiol i attal y gaethfasnach a gerid yn mlaen gyda'r fath egni yn nghymydogaeth y Llyn mawr hwnw. I aros i'r agerlong ddysgwyliedig gyrhaedd y Zambesi, penderfynodd y Doctor ddefnyddio ei fintai i adeiladu cwch ysgafn pedair rhwyf, a'i gludo i'r llyn i'r dyben o gario yn mlaen archwiliadau pellach. Dechreuwyd y gwaith hwn ar y 6ed o Awst, 1861. Cludwyd y cwch ar ysgwyddau dynion am ddeugain milldir o ffordd dros y tir, ac yna nofiwyd ef ar yr Afon Shire Uchaf. Hwyliodd y fintai yn y cwch hwn i Lyn Nyassa ar yr ail o Fedi, 1860.

Wrth archwilio y Llyn, cafodd y fintai brofion o ffrwythlonrwydd diderfyn y tir o'i amgylch, lluosogrwydd y trigolion, amledd y pentrefi, cyflawnder dihysbydd y pysgod yn y dyfroedd, y rhai a gynnysgaeddent y pysgodwyr gyda digonedd o ymborth, a llawer o wrthddrychau ereill. Y mae y llyn yn 200 o filldiroedd o hyd a 40 milldir o led ar gyfartaledd, er fod ei led mewn un man o 50 i 40 milldir.

Gan ddychwelyd i'w llong, yr archwilwyr a gyrhaeddasant i'r Shire ar yr 8fed o Dachwedd, 1861, a chychwynasant i lawr yr afon i gyfeiriad y Zambesi. Cyrhaeddodd y Pioneer i'r Zambesi ar yr 11eg o Ionawr, 1862, ar ei thaith i lan y mor. Pedwar diwrnod ar bymtheg yn ddiweddarach, yr archwilwyr gwrolfrydig a gawsant yr hyfrydwch o groesawu y llong ryfel "Gorgon," yr hon oedd yn tynu ar ei hol long hwyliau, ar fwrdd pa un yr oedd Mrs. Livingstone a rhai boneddigesau ereill perthynol i'r cenadon. Yn yr unrhyw lestr hefyd dygid, yn bedair ar hugain o adranau gwahanol, yr agerlong fechan bwrpasol i fordwyo Llyn Nyassa, yr hon a gostiasai chwe' mil o bunnau į Livingstone yn bersonol. Yr oedd peiriannau y Pioneer mewn cyflwr mor nodedig