Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Zette, yr hwn a ddaliwyd gerfydd ei law gan un o'r Makololo. Mewn atebiad i holiadau Livingstone, dywedodd y caethyrwr hwn fod y cwmni caeth wedi eu prynu, ond y bobl eu hunain a wadent hyny, ac a ddywedent mai eu caeth-gadwyno trwy orthrech a gawsent. Tra yr oedd yr ymholiad hwn yn myned yn mlaen, diangodd y diweddaf o'r caethyrwyr i'r goedwig; ac wedi cael y bobl yn hollol yn eu dwylaw, cyflym y darfu i'r dynion gwynion ryddhau y gwragedd a'r plant diamddiffyn o'u cadwynau. Yr oedd y dynion caethiwedig wedi eu rhwymo gyda baglau cryfion o goed, y rhai yr oedd raid eu llifio drwyddynt. Dyma'r gwrthwynebiad pendant a phenderfynol cyntaf a arddangoswyd gan y Prydeinwyr i'r gaethfasnach farbaraidd ac annuwiol yn Nghanolbarth Affrica.

Mawr ydoedd syndod y pedwar ugain a phedwar caethion rhyddedig weled unrhyw ddynion yn tosturio wrthynt hwy yn eu cyflwr truenus, ac yn barod i geisio gwella eu sefyllfa. Plentyn bychan, yn ngrym tanbeidrwydd ei galon syml, a ymgymerodd a bod yn llefarwr dros y bobl, gan ddyweyd yn ei ddull plentynaidd, "Y lleill a'n cadwynasant ac a'n newynasant; ond chwychwi a dorasoch ein rhwymau ac a barasoch i ni fwyta. Pa fath bobl ydych, ac o ba le y daethoch?". Y bobl syml a hysbysasant i'w rhyddhawyr fod dwy o'r gwragedd wedi cael eu saethu y dydd blaenorol am geisio dattod eu rhwymau. Curasant ymenydd baban diniwed un wraig allan, am nas gallai hi gludo ei baich gosodedig gydag ef! a holltasid corff un dyn gyda bwyell am ei fod yn llethedig ac analluog i gerdded oherwydd blinder.

Rhyddhawyd haner cant o gaethion ereill yn mhen ychydig ddyddiau; ac ymddengys fod eu gweithredoedd daionus wedi symbylu yr Ewropeaid i'r fath egnion ar ran y caethion, fel y buasent, a hwynthwy yn y fath ystad diamddiffyn, wedi cyflawni gweithredoedd annoeth a pheryglus i'w diogelwch personol pena buasai i Livingstone gymedroli eu haiddgarwch.

Pan welodd Livingstone nas gallai gyflawni nemawr waith gyda llestr mor ddofn a'r "Pioneer," a chan ofni trethu amynedd a phwrs y Llywodraeth yn ormodol,