Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bu raid gwario llawer o arian. Cadwyd y fintai unwaith am bythefnos ar ben tywod-wrym. Pe buasai Livingstone yn gadael y llong i agor cymundeb gyda'r brodorion, yn niffyg gofal meddygol, gwenwynasid yr Ewropeaid yn ebrwydd gan afiachusrwydd yr iseldir o gylch yr afon, ac nis gallesid diogelu eiddo cenadaeth y Prif Ysgolion trwy ei symud. Wrth lusgó y "Pioneer" dros y tywod-wrymiau, cafwyd gan dri o'r cenadon, sef yr Esgob a'r Meistri Walter a Scudamore, y cynnorthwy mwyaf ewyllysgar.' Ond pe na buasai y "Pioneer" yn gofyn namyn tair troedfedd o ddwfr, yn lle pump, Ilaihasid gwaith y fintai, ac achubasid llawer o amser gwerthfawr.

Hyd yr amser presennol, buasai yr ymgyrch ar y Zambesi yn weddol lwyddiannus. Yr oedd aelodau y fintai wedi llwyddo i agor maes cotwm pedwar can' milldir o hyd, yr oeddynt wedi enill ymddiried y brodorion yn mhob cyfeiriad y teithiasent, a phe buasai cenadaeth y Prif Ysgolion gynnwysiedig o ddynion galluog, yr oedd pob rhagolwg y gwawriasai cyfnod o heddwch a llwyddiant ar y parth yma o'r Cyfandir. Ond yn awr, pan oedd y cenadon yn barod i ddechreu y gwaith da o wareiddio y brodorion a gwella eu sefyllfa foesol, canfu Livingstone ei fod ef wedi agor ffordd i'r caethfasnachwyr yn ogystal ag i'r cenadon. Ymddangosai fod dylanwad drwg a dinystriol y bydr elw allanol yn ymryson ymdywallt ar y brodorion syml ag y dymunai y dyngarwr Livingstone, yn enw Prydain Fawr, eu gwaredu o'u tywyllwch.

Yn Moame, hysbyswyd yr Ewropeaid y byddai i gwmni o gaethfasnachwyr yn fuan ddyfod trwy y pentref. Parodd y newydd cyffrous hwn i'r naill ofyn i'r llall a ddylesid goddef y fath beth. Yn mhen ychydig fynydau wedi iddynt dderbyn y newydd hynod, daeth y cwmni caethfasnachol heibio, gyda chadwyn hirfaith o ddynion truenus a golwg hirgystuddiedig arnynt, a'r gyrwyr duon yn marchogaeth yn llawen fel gorymdaith. Ebrwydded y gwelsant y Brydeinwyr, y caethfasnachwyr a ddiangasant nerth eu gwadnau i'r goedwig. Ond attaliwyd un caethfflangellwr, sef gwas Llywydd Milwrol