Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ychydig ddyddiau sicrhawyd ni gan Rowe, morwr, Seisnig, fod yn anmhosibl iddi ddyfod yn waeth nag ydoedd. Ar foreu yr 21ain, tarawodd y Ma-Robert ar dywod-drum, a chan ddarfod i'r afon ymchwyddo yn ystod y nos, ni welid dim o'r llong erbyn y boreu, oddigerth oddeutu chwe' throedfedd o'i dau hwylbren. Aelodau y fintai a lwyddasant i lanio yn Ynys Chimba, ac wedi iddynt dderbyn cychod o Senna, hwy a aethant yn mlaen hyd y dref hono, lle y derbyniwyd hwy yn llettygar gan gyfaill Portuguaidd.

Ar y 31ain o Ionawr, cyrhaeddodd y "Pioneer," llong newydd Dr. Livingstone o Frydain, at enau yr afon, ond oherwydd y tywydd ystormus, nis gallodd hi fyned i mewn i'r afon hyd y 4ydd dydd o'r mis canlynol. Ar yr un adeg, cyrhaeddodd at enau y Zambesi Genadaeth o Brif Ysgolion Rhydychain a Chaergrawnt, o dan ofal ac arweiniad yr Esgob Mackensie, gyda'r amcano bregethu yr Efengyl i'r llwythau a breswylient lanau Llyn Nyassa. Cynnwysai y Genadaeth chwech o foneddigion Seisnig a ddysgasid i fyny yn y Prif Ysgolion, a phump o ddynion duon o Drefedigaeth y Penrhyn. A'r Esgob yn awyddus i ddechreu gwaith ei genadaeth yn ddiymaros, efe a archodd i'r Dr Livingstone ei gludo ef a'i gwmni i fyny y Shire; ond gan fod cynnifer o wrthwynebiadau pwysig i fabwysiad y cwrs brysiog hwn, gorfodwyd y Doctor i erfyn ar yr Esgob leddfu ei frys er mwyn ei ddyledswydd. Hyny a wnaed; a chan adael y gweddill o aelodau ei genadaeth yn Johanna, un o Ynysoedd Comoro, aeth yr Esgob gyda Livingstone i archwilio Afon Rovuma. Y mae genau y Rovuma yn meddu golygfeydd ardderchocach na glanau y Zambesi; ac yn wahanol i'r afon hono, nid oes dywod-wrym ar ei genau. Ond yr oedd rhedlif y Rovuma mor gyflym fel nad allai y "Pioneer," yr hon a dynai bum' troedfedd o ddwfr, ei mhordwyo. Yr oedd y llong wedi ei chynllunio i beidio tynu ond tair troedfedd o ddwfr, ond mewn trefn i'w chryfhau i groesi y mor dyfnasid ei thynfa, ac mewn trefn i geisio ei chyfaddasu i fordwyo trumau tywodlyd, &c., collwyd llawer o amser, achoswyd blinder mawr i'r teithwyr, a