Tudalen:Hanes bywyd ac anturiaethau Dr Livingstone.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd corff mawr o is-lwyth Barotae wedi gwrthryfela a dianc i'r gogledd. Yr oedd y Batoka, is-lwyth arall, yn herio awdurdod Sekeletu, a'r penaeth Mashotlane, gerllaw Rhaiadr Victoria, yn gwrthod talu gwarogaeth i Sekeletu fel ei uwch-benaeth neu ei ymherawdwr. Felly yr oedd yr Ymherodraeth deg a gyfodasid gan Sebituane, y rhyfelwr a'r tywysog dewr-galon—yr oedd yr Ymherodraeth odidog a ffurfiasid gan ei wroldeb a'i ddoethineb ef, yn cwympo'n ddarnau, ac yn dilyn ol yr oll o'r Ymherodraethau a'r Breniniaethau Affricanaidd lle na chaed addysg i gadw'n fyw ddoethineb eu sylfaenwyr.

Gan ein bod wedi dyfod i deimlo dyddordeb yn y Makololo druain ar gyfrif eu ffyddlondeb fel gosgorddlu a chyfeillion i Livingstone, gallwn gofnodi yn y fan ddarfod i'w cyfaill dderbyn adrodddiad yn 1865 i'r perwyl fod Sekeletu wedi marw yn 1864, a chwyldroad wedi tori allan yn nghylch dewisiad ei olynydd. Ymadawsai un blaid, gan gymeryd eu hanifeiliaid i'w canlyn, at Lyn Ngami, a'r rhai a arosasant a ddinystriwyd ac a wasgarwyd yn fuan gan wrthryfel cyffredinol yn mhlith y llwythau duon a ddarostyngasid gan Sebituane.

Ar yr 17eg o Fedi, ymadawodd Livingstone oddiwrth Sekeletu am y waith olaf, ac ar y 23ain o Dachwedd, efe a gyrhaeddodd i Zette gwedi' absennoldeb o chwe' mis. Yr oedd y morwyr Seisnig a adawsid i ofalu am yr agerlong wedi ymddwyn yn ganmoladwy yn ystod taith y cenadwr dros y tir, ac yr oedd eu hiechyd heb ei anmharu.

Gan fod y Zambesi yn isel, bu y fintai yn analluog i ymadael o Tette hyd y 3ydd o Ragfyr; a phan oeddynt wedi penderfynu a pharotoi i gychwyn i ymofyn meusydd newyddion i'w harchwilio, hwy a ganfyddasant mai gwaith tra anhawdd oedd cadw у "Ma-Robert" i nofio. Cawn Livingstone yn gwneyd yr adroddiad canlynol am ei long:-Canfyddid ynddi agenau newyddion bob dydd, daeth sugniedydd y peiriant i fod yn gwbl ddiwerth, torodd y bont, llanwyd yr oll o'r cwsg. gelloedd, oddigerth y caban, gan ddwfr, ac yn mhen